Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddi mwy o berfformwyr gwych i’r rhestr ar gyfer 10 mlwyddiant FOCUS Wales 2020
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyhoeddi mwy o berfformwyr gwych i’r rhestr ar gyfer 10 mlwyddiant FOCUS Wales 2020
Pobl a lle

Cyhoeddi mwy o berfformwyr gwych i’r rhestr ar gyfer 10 mlwyddiant FOCUS Wales 2020

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 5, 2019 11:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
FOCUS Wales 2020
RHANNU

Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi ail don o berfformwyr cerddoriaeth newydd a fydd yn chwarae yng ngŵyl 2020. Un o’r actau byw gorau yn y byd ar hyn o bryd, ac un sydd wedi’i enwebu am wobr Grammy, Altın Gün, a fydd yn dod â roc seic Twrcaidd i Wrecsam!!

Cynnwys
  • Perfformwyr eraill sydd newydd eu cyhoeddi yw…
  • Mae artistiaid sydd eisoes wedi’u cyhoeddi’n cynnwys….

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Perfformwyr eraill sydd newydd eu cyhoeddi yw…

JYn ymuno â’r rhestr fawr mae’r band pop electronig o dri dan label Heavenly Recordings, Stealing Sheep, a ryddhaodd eu 3ydd albwm poblogaidd yn gynharach eleni. Mae’r band a enwebwyd am Wobr Cerddoriaeth Cymru, HMS Morris, yn dychwelyd i FOCUS Wales yn 2020, ar ôl iddynt gwblhau taith a chyfnod yn Japan dros yr hydref. Mae’r band ôl-pync, The Membranes, yn dychwelyd, yn ogystal â pherfformiad cyntaf mewn gŵyl i’r band newydd Chinatown Slalom, ar ôl i’w caneuon gael eu clywed ar Radio 1 ac wedi iddynt ymddangos yn Pitchfork ac NME yn ddiweddar.

Bydd dros 250+ o actau o Gymru ac o amgylch y byd yn heidio i Wrecsam rhwng 7 a 9 Mai ar gyfer yr ŵyl. Maen nhw’n falch iawn o ddatgelu’r ail don o gerddorion newydd a fydd yn chwarae yng ngŵyl 2020, gan ymuno â rhai fel Gruff Rhys, Flamingods, Catrin Finch a Sekou Keita, The Breath a JOHN, ar ôl eu cyhoeddi fis diwethaf.

Mae artistiaid sydd eisoes wedi’u cyhoeddi’n cynnwys….

Casi, Karima Francis, Chroma, Meilir, Breichiau Hir, Hyll, Port Erin, Tim And Sam’s Tim And The Sam Band, Drinking Boys And Girls Choir + artists from Canada, Germany, Ireland, Korea and the Netherlands… To see the full list of acts announced so far, visit www.focuswales.com plus 180 more acts still to be announced!

Casi, Karima Francis, Chroma, Meilir, Breichiau Hir, Hyll, Port Erin, Tim And Sam’s Tim And The Sam Band, Drinking Boys And Girls Choir ac artistiaid o Ganada, yr Almaen, Iwerddon, Corea a’r Iseldiroedd… I weld y rhestr lawn o’r artistiaid sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma, ewch i www.focuswales.com, ac mae 180 o actau eraill i’w cyhoeddi eto!

Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru. Gyda thri diwrnod o baneli, sgyrsiau a chyngor am y diwydiant, bydd mwy na 400 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd. Mae’r siaradwyr diweddaraf i gael eu cyhoeddi’n cynnwys Jason Mayall (Gŵyl Fuji Rocks, Japan), Fanny Lambotte (Those Damned Artists), John Fisher (Old Blue Last, Llundain), Marie Moreno (Miles Agency, Ffrainc), a Rob McGee (Empire Agency). I weld y rhestr lawn o gyfranwyr sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma, ewch i www.focuswales.com.

Bydd 2020 yn nodi 10fed ŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales yn Wrecsam, sydd newydd gyrraedd y rhestr fer am Wobr Gwyliau’r DU, a Gwobr Gŵyl Ewropeaidd.

Cynhelir FOCUS Wales 2020 ar 7, 8 a 9 Mai mewn gwahanol safleoedd yn Wrecsam. Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn a holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael ar www.focuswales.com/tocynnau.

Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Advent Calendar Christmas Recycling Pethau y gallech ddod ar eu traws y gellir eu hailgylchu dros y Nadolig
Erthygl nesaf Workman Wrexham Trading Standards Dyn yn honni ar gam ei fod yn gweithio i’r cyngor er mwyn cael mynediad at eiddo

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English