Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Angen Rhagor o Letwyr yn Wrexham
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Angen Rhagor o Letwyr yn Wrexham
Pobl a lleY cyngor

Mae Angen Rhagor o Letwyr yn Wrexham

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 11:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
More hosts needed
RHANNU

Mae teuluoedd o Wcráin angen man diogel a rhywle i alw’n gartref yn Wrecsam.

Wrth gynnig llety, cewch £500 y mis, yn ogystal â chefnogaeth a hyfforddiant am ddim.

Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi agor eu calonnau a’u cartrefi i’r rhai mewn angen. Ond mae’r argyfwng yn parhau.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Yng Ngogledd Cymru, mae Hollie a Mark sydd newydd briodi, wedi agor eu cartref i Lidiia a’i dwy gath.

Mae’r ddwy gath sydd eisoes gan y cwpwl wedi bod wrth eu bodd yn croesawu’r ddwy gath arall.

“Mae yna ragdybiaeth bod hyn yn gallu bod yn faich, ond mae hynny’n bell iawn o’r  gwirionedd,” meddai Hollie.

“Mae’r ddau ohonom eisiau i Lidiia aros cyhyd ag y mae hi angen bod yma, a phan fydd yr amser yn iawn rydym wedi gwneud cynlluniau i fynd i ymweld â hi yn ôl yn Wcráin.”

Mae Lidiia a Hollie wedi dod yn ffrindiau agos. Rhai o’r pethau sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf iddynt yw siopa, mynd i’r sinema a bwyta allan gyda’i gilydd, ac roedd Lidiia hefyd yn westai arbennig ym mrecwast priodas y cwpwl.

“Mae fel byw gyda ffrind hyfryd a chwrtais iawn,” meddai Hollie wrth iddi sôn am y ffordd y mae Lidiia yn gwneud yn siŵr ei bod yn iawn os yw hi’n gweithio’n rhy galed neu’n teimlo’n sâl.

“Rydyn ni’n mwynhau ei chael hi yma yn fawr.

“Oherwydd y taliad gan y llywodraeth, dydy hyn ddim yn bwysau ariannol arnon ni, fe wnaethon ni drafod sut y byddai pethau’n gweithio ar y dechrau, gan gynnwys biliau, ac mae wedi bod yn hawdd iawn.”

Prif bryder Hollie yw pa mor anodd fydd ffarwelio â Lidiia a’i chathod.

Bydd y rhan fwyaf o Wcreiniaid sydd yng Nghymru wedi treulio cryn amser yma erbyn hyn, yn dilyn yr ymosodiad mawr gan Rwsia ym mis Chwefror 2022, a bydd llawer mewn addysg a chyflogaeth. Bydd y rhan fwyaf wedi dechrau setlo yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n cymunedau lleol.

Mae awdurdodau lleol yn cynnig cymorth a chefnogaeth trwy gydol y cyfnod lletya a bydd modd iddynt gynnig rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal. Byddant bob amser ar gael i ddatrys unrhyw broblemau neu os bydd y trefniant lletya yn methu, senario sy’n annhebygol ond sydd wedi ei ystyried.

Ni ellir codi rhent ar y rhai sy’n cael llety ond gellir disgwyl iddynt wneud cyfraniad rhesymol at filiau’r aelwyd.

Mae Housing Justice Cymru yn cynnig llinell gymorth ar gyfer lletywyr ac yn cynnal sesiynau ar-lein i’r rhai sy’n ystyried cynnig llety er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw am yr hyn sy’n ddisgwyliedig, a ph’un ai dyma’r peth iawn iddyn nhw. Nid oes gorfodaeth i wneud cais i gynnig llety yn dilyn y sesiwn.

Mae hyfforddiant pellach i’r rhai sydd wedi cofrestru hefyd ar gael. Gweler Cymorth i Letywyr – Cartrefi i Wcráin – Housing Justice ar wefan Housing Justice Cymru.

I wneud cais i gynnig llety, ewch i llyw.cymru/cynnigcartref.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Y Cyngor yn cynnal ei wobr Safon Aur am Iechyd Corfforaethol
Erthygl nesaf UK emergency alerts system System Rhybudd Argyfwng newydd i’w brofi’n genedlaethol ar 23 Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English