Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o droli bocsys ar y gweill
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mwy o droli bocsys ar y gweill
Y cyngor

Mwy o droli bocsys ar y gweill

Diweddarwyd diwethaf: Awst 29, 2018 2:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mwy o droli bocsys ar y gweill
RHANNU

Mae Wrecsam wedi gwneud yn dda iawn gyda chyfraddau ailgylchu dros y blynyddoedd diwethaf.

Cynnwys
  • 2,800 o droli bocsys newydd
  • “Mwy o welliannau eto i’r cyfleuster ailgylchu”

Diolch i ymdrechion ein preswylwyr, mae’r swm o wastraff a gaiff ei ailgylchu yn Wrecsam wedi cyrraedd 68% yn 2017/2018 – sy’n wirioneddol wych.

Rydym hefyd yn gwybod bod ein troli bocsys ailgylchu, a gyflwynwyd gyntaf yn 2016, wedi bod yn boblogaidd iawn, ac yn ffordd gyfleus o helpu preswylwyr i ailgylchu eu gwastraff cartref.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ar hyn o bryd, 16,000 o dai yn unig yn Wrecsam sy’n defnyddio eu troli bocsys, gyda chartrefi eraill yn defnyddio’r cynhwysyddion o’r math gwreiddiol.

Mae newyddion da ar y gweill…

2,800 o droli bocsys newydd

Rydym wedi derbyn nawdd o £112,000 gan Llywodraeth Cymru i brynu rhagor o droli bocsys ailgylchu.

Mae hyn yn golygu y bydd gennym 2,800 o focsys ychwanegol, yn barod i’w dyrannu ar draws y Sir o ddydd Sadwrn, Medi 1af.

Mae cyflwyno’r bocsys newydd yn seiliedig ar y treial a wnaed yn 2015, pan fu arbrawf o gyflwyno 200 o focsys mewn cartrefi ar draws y fwrdeistref sirol.

Roedd canlyniadau’r treial cychwynnol hwnnw’n dangos bod y bocsys yn gweithio’n well ar ystadau mwy ac ardaloedd gyda mynediad da.

Rydym wedi trafod gyda chynghorau eraill sydd wedi bod yn defnyddio’r troli bocsys am eu mewnbwn hefyd, felly cawn ddysgu gan ‘rheiny sydd wedi bod yn defnyddio’r troli bocsys am gyfnod hirach na ni.

Bydd y cynllun yn cynnwys cyflwyno nifer fechan o focsys mewn ardaloedd megis Brychdyn Newydd, Llannerch Banna, Parc Llwyn Onn, Rhiwabon, Marchwiail, Cartrefle, Garden Village, Acrefair, Rhos, Johnstown, Gwersyllt a Pontfadog.

“Mwy o welliannau eto i’r cyfleuster ailgylchu”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ddiolchgar i Llywodraeth Cymru am y buddsoddiad pellach hwn yn y troli bocsys ailgylchu, a gyda chyflwyniad rhagor ohonynt, bydd tua chwarter o gartrefi bwrdeistref sirol yn derbyn y troli bocs.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i breswylwyr Wrecsam unwaith eto am eu hymroddiad i ailgylchu.  Gyda diolch iddynt, rydym wedi gallu dod â’n cyfraddau ailgylchu i lefelau anhygoel o dda, a gyda gwelliannau fel cyflwyno mwy o droli bocsys, gall y gyfradd honno fynd o nerth i nerth.”

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llyfrau, tractors a glud Llyfrau, tractors a glud
Erthygl nesaf laptop Arbed amser, gwnewch bethau ar-lein!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English