Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Pobl a lle

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/09/18 at 10:48 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
RHANNU

Mae’r prosiect i greu ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd yng nghanol dinas Wrecsam wedi hen ddechrau!

Cynnwys
Gwaith wedi dechrau ar y safle!Arian sylweddol wedi’i sicrhauEwch i’n Hamgueddfa Dros DroCaffi’r CwrtArchifau ac Astudiaethau Lleol‘Archwaeth enfawr’ am amgueddfa o safon fyd-eang yn WrecsamEisiau gwybod mwy? Dilynwch ni ar-leinAmgueddfa Wrecsam ar gyfryngau cymdeithasolAmgueddfa Bêl-droed Cymru ar gyfryngau cymdeithasol

Mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar yr Adeiladau Sirol eiconig, 167 oed, rhestredig Gradd II yng nghanol dinas Wrecsam – cartref Amgueddfa Wrecsam ers 1996.

Pan fydd yr adeilad yn ailagor i’r cyhoedd yn 2026, bydd yn gartref i Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i gwella a’i hehangu, ochr yn ochr ag amgueddfa bêl-droed gyntaf erioed Cymru.

Gydag orielau newydd o’r radd flaenaf ac adeilad wedi’i adnewyddu a’i ymestyn yn llwyr, mae’r amgueddfa ar fin bod yn atyniad cenedlaethol newydd o safon fyd-eang i Wrecsam, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru – a thu hwnt!

Yn ogystal â’r gwaith adeiladu mae digon wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni! Hefyd, mae newyddion cyffrous i’w rhannu ar sut y gallwch chi gael mynediad at wasanaethau’r amgueddfa tra bod yr adeilad ar gau!

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod…

Gwaith wedi dechrau ar y safle!

Cymerodd y contractwr adeiladu penodedig, SWG Construction, feddiant o adeiladau a blaengwrt yr amgueddfa ym mis Gorffennaf.

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Roedd y gwaith cychwynnol yn cynnwys dymchwel y newidiadau modern i’r adeilad fel rhan o greu’r atriwm newydd a’r orielau newydd ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf.

I unrhyw un sy’n gyfarwydd ag adeilad yr amgueddfa, y newidiadau mwyaf i’r adeilad yw tynnu’r to dros yr hen brif oriel i ail-greu’r cwrt mewnol gwreiddiol, tra ar flaen yr adeilad mae’r estyniad gwydrog wedi’i ddatgymalu’n ofalus i caniatáu i waith fynd rhagddo ar ffasâd blaen yr adeilad.

Mae’r craen mawr ar St Mark’s Road wedi cynorthwyo gyda’r tasgau hyn, er mai megis dechrau y mae ei waith!

Yn ogystal â datblygu amgueddfa newydd wych, mae hwn hefyd yn brosiect cadwraeth hynod a fydd yn gweld un o adeiladau enwocaf Wrecsam yn cael ei adfer i’w hen ogoniant.

Ychwanegodd Shaun Humphries, Cyfarwyddwr Adeiladu, SWG Construction: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect mor bwysig i Wrecsam ac yn wir i Gymru gyfan.

“Rydym yn defnyddio ein holl brofiad ac arbenigedd i ofalu am yr adeilad hanesyddol hwn a fydd unwaith eto yn destun balchder i’r gymuned leol, yn ogystal â denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i Wrecsam.”

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design a’r penseiri, Purcell.

Mae cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner hefyd wedi derbyn £1.3 miliwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Arian sylweddol wedi’i sicrhau

Efallai eich bod wedi clywed y newyddion gwych a gawsom ym mis Awst: bydd prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner yn derbyn grant o £2.7m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol!

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Bydd y grant yn ariannu’r gwaith o ffitio’r amgueddfa â’r arddangosfeydd y mae’r ymwelwyr yn eu profi, yn ogystal â darparu’r modd i gyflwyno cyfres o weithgareddau, digwyddiadau a rhaglenni amgueddfa eraill dros y pedair blynedd nesaf ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam a mannau eraill yng Nghymru.

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
image courtesy of Haley Sharpe

Mae’r grant hefyd wedi galluogi’r amgueddfa i fwrw ymlaen i brynu casgliad sylweddol o bêl-droed Cymreig a oedd yn arfer bod mewn casgliad preifat. Mae hyn yn cynnwys casgliad heb ei ail o ddeunydd yn ymwneud â buddugoliaeth derfynol Cwpan FA Lloegr 1927 ac amrywiaeth drawiadol o raglenni gemau rhyngwladol dynion Cymru, y cynharaf yn dyddio o 1901.

Ewch i’n Hamgueddfa Dros Dro

Bellach mae gan yr amgueddfa ganolfan dros dro ar Sgwâr y Frenhines yng nghanol dinas Wrecsam!

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Gallwch ymweld â’r amgueddfa dros dro i weld yr holl gynlluniau dylunio diweddaraf ar gyfer yr Amgueddfa Dwy Hanner ac i gysylltu â thîm yr amgueddfa. Byddwn yn cynnal gweithgareddau plant yma yn ystod hanner tymor a gwyliau ysgol, yn ogystal â digwyddiadau allgymorth cyhoeddus eraill.

Mae siop yr amgueddfa hefyd wedi’i lleoli yma, lle gallwch brynu amrywiaeth o anrhegion unigryw, llyfrau, cardiau a mwy, i gyd wedi’u hysbrydoli gan hanes lleol Wrecsam.

Oriau agor: Llun-Gwener, 10am-5pm

Caffi’r Cwrt

Mae ein Caffi Cwrt poblogaidd bellach wedi ymgartrefu yn eu cartref dros dro yn y cwrt bwyd ym marchnad, hwb celfyddydau a chymunedol Wrecsam, Tŷ Pawb, sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Byddwch yn falch o glywed eu bod yn dal i weini’r un dewis blasus o brydau ysgafn cartref, coffi, brechdanau, cawliau, cacennau a phwdinau anorchfygol.

Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 10.30am-4.30pm; Dydd Sadwrn, 11.00yb-3.30yp.

Archifau ac Astudiaethau Lleol

Bellach mae gan Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam gartref newydd, parhaol yn Llyfrgell Wrecsam. Gallwch anfon e-bost atynt ar archives@wrexham.gov.uk.

‘Archwaeth enfawr’ am amgueddfa o safon fyd-eang yn Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Mae yna wefr yn dechrau adeiladu o amgylch y prosiect hwn nawr bod y gwaith adeiladu wedi dechrau a bod maint y cynllun uchelgeisiol ar gyfer yr amgueddfa newydd yn dod yn amlwg.

“Roedd stondin yr amgueddfa bêl-droed yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn ddiweddar yn ergyd enfawr, gyda miloedd o bobl o bob rhan o’r wlad yn ymweld i ddarganfod mwy am y cynlluniau – arwydd o’r awydd enfawr sydd ar Gymru i gael ei hamgueddfa bêl-droed ei hun. .

“Bydd Amgueddfa Wrecsam ehangedig yn elwa o orielau o’r radd flaenaf i adrodd stori ein dinas a’n bwrdeistref sirol ar adeg pan fo diddordeb byd-eang yn Wrecsam yn codi’n aruthrol.”

“Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026. Yn y cyfamser byddwn yn annog pawb sy’n ymweld â chanol y ddinas i fynd i gael golwg ar yr amgueddfa dros dro newydd ar Sgwâr y Frenhines lle gallant weld cynlluniau darluniadol hardd ar gyfer yr amgueddfa newydd a darganfod mwy am y datblygiad newydd cyffrous hwn i Wrecsam.”

Eisiau gwybod mwy? Dilynwch ni ar-lein

Gallwch ddilyn Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn postio llawer o gynnwys blasus wedi’i ysbrydoli gan hanes cyfoethog Wrecsam a phêl-droed Cymru yn rheolaidd, gan gynnwys lluniau, straeon ac eitemau a ddewiswyd yn arbennig o gasgliadau’r amgueddfa.

Amgueddfa Wrecsam ar gyfryngau cymdeithasol

Facebook

Twitter

Instagram

Amgueddfa Bêl-droed Cymru ar gyfryngau cymdeithasol

Facebook

Twitter

Instagram

Ewch i wefan yr amgueddfa am ragor o wybodaeth am y prosiect

TAGGED: amgueddfa, Cymraeg, Football, Museum, wrecsam, wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Leisure Centres O Belydrau’r Haul i Hamdden: Canolfannau Hamdden Wrecsam yn Tywynnu’n Llachar gyda Datblygiadau Ynni, Gan Baratoi’r Ffordd am Ddyfodol Gwyrddach
Erthygl nesaf Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English