Mae myfyrwyr Ysgol Uwchradd Darland eto yn dathlu llwyddiant gyda 20 o fyfyrwyr yn cyrraedd y graddau uchaf yn eu TGAU Mathemateg.
Rhyngddynt, cyflawnodd y myfyrwyr 36 gradd A* a 4 gradd A mewn Mathemateg TGAU a TGAU Rhifedd. Newyddion gwych!
Cyflwynwyd enwau myfyrwyr oedd yn dangos talent ar gyfer y pynciau ar gyfer eu TGAU yn gynnar ac fe wnaethant dderbyn eu canlyniadau fis Ionawr. Meddai Dr Edwards, Pennaeth yr Adran: “Mae’r rhan fwyaf ohonynt bellach yn astudio cwrs Mathemateg Ychwanegol, a byddant yn cyflawni Rhagoriaeth.
“Fe wnaethant weithio’n galed yn y pwnc, paratoi’n dda ar gyfer eu arholiadau, ac fe wnaethant yn ardderchog. Mae pawb yn yr adran fathemateg yn falch iawn ohonynt, ac rydym yn falch o’u gweld yn cael y llwyddiant maent yn eu haeddu.”
Meddai’r Pennaeth, Joanne Lee: “Mae gennym staff proffesiynol a chefnogol iawn yn Ysgol Uwchradd Darland, sydd eisiau’r gorau i bob un myfyriwr. Mae’r disgyblion hyn wedi dangos talent yn y pwnc ac maent wedi eu hannog a’u cefnogi dros y pedair blynedd ddiwethaf.
“Mae’n adran fathemateg – dan arweiniad Dr Edwards – yn dîm cryf iawn. Maent wedi gweld canlyniadau yn parhau i gynyddu’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn parhau i gyflawni canlyniadau cryf iawn i fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Darland.
“Ond fydd Dr Edwards a’i dîm ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau. Gyda 36 gradd A* wedi eu cyflawni, maent bellach yn gweithio gyda myfyrwyr i dorri’r record ysgol o 41 o fyfyrwyr gyda graddau A*. Gallai hyn olygu dros 82 o raddau A* rhyngddynt, gan y bydd pob myfyriwr yn sefyll dau arholiad TGAU mewn Mathemateg a Rhifedd.
“Mae’r 20 myfyriwr yma wedi perfformio yn arbennig o dda, a dylent fod yn falch iawn o’r hyn maent wedi ei gyflawni. Gallant bellach fynd ymlaen at gymwysterau mathemateg pellach a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt symud tuag at Lefel A ac astudiaethau pellach.”
Get the latest gritting info straight into your inbox
SIGN ME UP NOW