Mae nifer fawr o bobl yn breuddwydio am fynd i Efrog Newydd…gyda chymaint i’w wneud yno, mae ymweld â’r ddinas fawr yn rhywbeth sydd ar restr llawer o bobl o bethau i’w gwneud cyn marw.
Os yw hyn yn wir amdanoch chi, o’r holl ffyrdd y byddech yn dychmygu gwireddu’ch breuddwyd, rydym yn sicr y byddai taith ysgol yn agos at waelod eich rhestr.
Ond dyna a fu ar gyfer nifer o fyfyrwyr lwcus Ysgol Bryn Alyn. Cawsant fynd i Efrog Newydd fel rhan o daith ddiwylliannol y Celfyddydau Mynegiannol, dan arweiniad eu hathrawon, Mrs Noon a Mr Gordon.
Digwyddodd y daith ‘unwaith mewn oes’ rhwng 10 a 15 Chwefror a hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r myfyrwyr fynd dramor…a pha le gwell i ddechrau!
Ac ni chawsant eu siomi 🙂
Cafodd y myfyrwyr gyfle i weld a gwneud y pethau arferol, ond roedd popeth wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau. Maen nhw wedi dychwelyd yn llawn syniadau ac wedi cael ysbrydoliaeth o sawl rhan o’u hymweliad.
Dysgu cymhwysol
Mae adran y Celfyddydau Mynegiannol yn awyddus iawn i fyfyrwyr brofi ‘dysgu cymhwysol’ fel profiad ymarferol a difyr, sy’n eu hymgysylltu’n haws o lawer nag y byddai lleoliad ystafell ddosbarth.
Dywedodd Amanda Noon, Pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bryn Alyn: “Roedd hon yn daith wych i athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd…roedd y myfyrwyr yn glod i’r ysgol a’u rhieni.
“Mae profi’r pethau hyn yn uniongyrchol yn y cyd-destun ‘dysgu cymhwysol’ hwn yn golygu bod y myfyrwyr wedi ymgysylltu â materion a gofyn cwestiynau’n frwdfrydig am bethau nad oeddent wedi dod ar eu traws o’r blaen ar wahân i mewn llyfrau, ffilmiau neu drwy sgyrsiau â rhieni.
“Rwy’n arbennig o gyffrous am gynlluniau’r myfyrwyr i greu murlun o Efrog Newydd ar gyfer yr ysgol a gofod ystafell ddosbarth awyr agored y Celfyddydau Mynegiannol wedi’i ysbrydoli gan Efrog Newydd; etifeddiaeth o daith unwaith mewn oes a fydd yn helpu i fod o fudd i bob un o’n myfyrwyr yn Ysgol Bryn Alyn.”
Darganfod hanes
Dechreuodd y myfyrwyr eu taith pum diwrnod gydag ymweliad â’r Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) ac Ynys Ryddid (Liberty Island), a chanfod hanes y cerflun anferth yn ogystal â dysgu sut y daeth America i gael ei hadnabod fel ‘gwlad y rhyddion’.
Aethant hefyd i ymweld â safle coffa ymosodiadau 9/11, a oedd yn foment emosiynol iawn. Gwnaeth y teyrngedau teimladwy i’r rhai a gollodd eu bywydau ar ddiwrnod yr ymosodiadau gyffwrdd y myfyrwyr.
Taith ffilmiau!
Rhan arall o’r daith oedd taith ffilmiau o Ddinas Efrog Newydd, lle cafodd y myfyrwyr weld lleoliadau o gannoedd o ffilmiau a sioeau teledu poblogaidd.
Cafodd myfyrwyr y cyfryngau gyfle i ofyn cwestiynau am sut caiff ffilmiau a sioeau teledu eu creu. Ymhlith uchafbwyntiau’r dydd oedd galw heibio Trump Towers, Parc Washington Square, Grand Central Station, Central Park a The Plaza!
Cafodd myfyrwyr celf eu hysbrydoli gan brynhawn yn ymweld â’r Amgueddfa Gelf Fetropolitanaidd, lle gwelsant ddarnau o waith Van Gogh, gan gynnwys ei baentiad enwog ‘Sunflowers’.
Aethant hefyd i arddangosfeydd yr Aifft, Celfyddyd Fodern, Ffasiwn a Hanes America, cyn dychwelyd ar y trên tanddaearol.
Broadway
Uchafbwynt pendant o’r daith oedd cyfle i fynd i weld sioe Beetlejuice ar Broadway. Roedd y myfyrwyr wedi’u cyfareddu gan y sioe gerdd gomedïaidd gyflym a chorfforol. Gwelsant agweddau theatr technegol y sioe, yn arbennig eu defnydd medrus o oleuadau a dyluniad y set.
Gwnaeth Times Square argraff fawr arnyn nhw, a chawsant gyfle i gerdded ar hyd yr un strydoedd â nifer o eiconau o’u blaenau, gan deimlo fel sêr ffilm eu hunain gyda phob modfedd o’r siopau wedi’u haddurno â goleuadau neon yn fflachio.
Taith Celf Graffiti
Aeth y myfyrwyr ar y trên tanddaearol i Brooklyn i gael taith dywys ar droed o Gelf Graffiti. Cawsant sgwrs am hanes Celf Graffiti, a chafodd y daith gymaint o argraff arnynt fel eu bod wedi cyflwyno cynnig i’w pennaeth, Mrs Slinn, i greu eu ‘Celf Stryd’ eu hunain wedi’i ysbrydoli gan Efrog Newydd, yn un o’r ardaloedd awyr agored yn Ysgol Bryn Alyn.
Roedd gweld y myfyrwyr mor angerddol a’u gweld yn mynd ati i greu’r cynllun hwn yn profi bod y daith yn fwy llwyddiannus fyth.
‘Top of the Rock’
Gorffennwyd y daith gydag ymweliad â ‘Top of the Rock’ yng Nghanolfan Rockefeller; gweledigaeth y gŵr busnes a’r dyngarwr enwog, John D. Rockefeller.
Wrth edrych ar olygfa wych 360 gradd o Ddinas Efrog Newydd, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am y Dirwasgiad Mawr ym 1929.
Yn ystod y daith, daeth y myfyrwyr yn fwy cyfarwydd â’r byd o’u cwmpas a sylweddoli gwreiddiau a diwylliant gwlad sydd mor enwog a dylanwadol.
Mae’n daith a fydd yn aros yn eu cof am weddill eu bywydau 🙂
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN