Mae Carchar Berwyn wedi agor ac ar waith ac er ein bod ni’n clywed llawer am ddedfrydau’r dynion, mae prosiect yn tynnu sylw at effeithiau carcharu ar blant a theuluoedd- mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru, Carchar Berwyn a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru.
Mae bod â rhywun annwyl yn y carchar yn creu diniweidrwydd a heriau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac mae aelodau’r teulu’n aml yn mynd drwy’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘ddedfryd gudd’.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
I blant, mae pwysau a newidiadau sylweddol pan mae aelod o’r teulu’n cael ei garcharu, gan gynnwys:
- Troseddu rhwng cenedlaethau – canfu astudiaeth bwysig bod 65% o fechgyn sydd â thad yn y carchar yn mynd yn eu blaenau i droseddu.
- Mae carcharu mam yn cael effaith barhaol a dim ond 5% o blant sydd â’u mam yn y carchar sy’n aros yn eu cartrefi eu hunain.
- Mae mwy o debygolrwydd o fywydau tlawd ac wedi’u niweidio.
- Mae stigma yn erbyn teuluoedd yn eu cymuned ac mae plant yn fwy unig yn yr ysgol.
Er bod mwy na 200,000 o blant yng Nghymru a Lloegr yn cael eu heffeithio gan hyn, nid oes unrhyw system i nodi pwy yw’r plant hynny felly maent yn aml yn wynebu’r holl beth eu hunain. Gwyddwn fod ymweliadau gan blant i Garchar Berwyn wedi cyrraedd 1,619 ym mis Rhagfyr 2017, yr uchaf hyd yn hyn, pan fo dim ond hanner y carchar yn llawn. Mae nifer o blant a theuluoedd yn ymweld ag aelodau’r teulu mewn Carchardai yn Lloegr, gan fod merched o Ogledd Cymru, er enghraifft, yn tueddu i gael eu hanfon i Garchar Styal, yr ochr arall i faes awyr Manceinion, ac mae troseddwyr ifanc yn cael eu hanfon y tu allan i Ogledd Cymru hefyd.
Mae’r prosiect hwn yn golygu bod y materion yn cael eu codi gyda chyrff ac asiantaethau proffesiynol, gan gynnwys Cyngor Wrecsam, fel y gall cefnogaeth a gwasanaethau wedi’u targedu gael eu darparu i’r grŵp cudd hwn yn ein cymdeithas.
Os ydych angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect, lawrllwythwch gopi o’r cylchlythyr yma:
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN