Disgwylir i lyfrgelloedd yn Wrecsam gau eu gwasanaeth Clicio a Chasglu fel rhan o Gyfnod Atal Byr Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, fel aelod o’r llyfrgell gallwch barhau i gael mynediad at a mwynhau 1,000 o lyfrau, llyfrau sain a chylchgronau trwy ULibrary, Borrowbox, a’n porth gwasanaethau ar-lein.
uLibrary and Borrowbox – e-lyfrau a e-lyfrau sain am ddim
Os ydych chi’n cael trafferth canfod rhywbeth gwahanol i’w ddarllen yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, peidiwch â phoeni, gan fod gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam ar hyn o bryd â mynediad at gatalog gwych o e-adnoddau ar gyfer e-lyfrau ac e-lyfrau sain.
gellir lawrlwytho uLibrary ar ffonau Apple neu Android a llechi.
Gellir ei ddefnyddio ar eich cyfrifiadur hefyd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae Borrowbox, yn debyg iawn i ULibrary, yn ap y gellir ei ddefnyddio ar ddyfeisiau Apple, Android a Kindle.
Mae’r ddau yn llawn dop o gynnwys ac wedi’u cynllunio i fod yn hawdd eu llywio.
Mis Hanes Pobl Dduo
Y mis Hydref hwn rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon, sy’n ymroddedig i’r straeon a’r storïwyr o gymunedau Affrica a Charibïaidd yn y DU, Iwerddon a ledled y byd.
O’r arloeswyr i gyfranwyr mwy cyfoes, gallwch ddewis o’n detholiad o deitlau. Mae gennym ychydig o awgrymiadau isod:
Enillydd Gwobr Pulitzer, The Colour Purple, gan Alice Walker.
Why I’m No Longer Talking to White People about Race, gan Reni Eddo-Lodge.
Enillydd gwobr Booker ‘Girl, Woman, Other,’ gan Bernadine Evaristo.
The Brighton Mermaid, gan Dorothy Koomson.
The Windrush Betrayal: Exposing the Hostile Environment, gan Amelia Gentleman.
My Sister the Serial Killer, gan Oyinkan Braithwaite.
Lawrlwythwch y rhain a mwy ar ffurf electronig a dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein.
Help gyda cheisiadau am swyddi
P’un a ydych wedi cael eich diswyddo yn ddiweddar; yn chwilio am eich swydd gyntaf; neu os ydych chi’n chwilio am her newydd, mae gan Lyfrgell Wrecsam ystod o gynnwys y gellir ei lawrlwytho i’ch cynorthwyo gyda’r prosesau ymgeisio am swydd a chyfweld.
Ymhlith y teitlau sydd ar gael i’w lawrlwytho mae:
Creating a Successful CV, gan Simon Howard.
How to write a CV that really works, gan Paul McGee.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Get the job you really want, gan James Caan.
How to Pass Psychometric Tests, gan Andrea Shavick.
Fel aelod o Lyfrgelloedd Wrecsam, cewch hefyd fynediad at ‘Universal Skills – Credyd Cynhwysol a Dod o hyd i Swydd’ AM DDIM, wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein.
Mae’r adnodd ar-lein hwn hefyd yn cynnwys canllaw cam wrth gam hawdd ei ddefnyddio.
Dim ond clic neu alwad ffôn ydych chi i ffwrdd o rywfaint o help gyda’ch darpar yrfa.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae gan lyfrgelloedd rai adnoddau gwych am ddim sy’n sicrhau y gallwn ddal i ddarllen yn ystod yr amseroedd anodd iawn hyn. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at eu gweld ar agor unwaith eto ond am nawr porwch drwyddynt ar-lein i weld beth sydd ar gael.”
Dilynwch llyfrgelloedd ar: Facebook – Wrexham Libraries | Llyfrgelloedd Wrecsam; Twitter – @WxmLibraries | @LlyfrgellWcm; Instagram – wrexlib
Lawrlwythwch yr ap GIG