Gall swyddi fod yn ddiddorol am wahanol resymau…ond mae rhywbeth arbennig am y cyfle hwn, sydd yn gwneud i’r swydd sefyll allan.

Wel does dim llawer o swyddi lle gewch weithio bob dydd gyda phobl sydd yn profi rhai o ddigwyddiadau pwysicaf yn eu bywyd, ond mae cyfle yn fan hyn.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cofrestru i weithio yn ein Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chofrestru.

Mae’n swydd barhaol, yn gweithio 30 awr yr wythnos.

Bydd y dyletswyddau’n cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth.

Bydd bod yn dyst i hysbysiadau o briodasau a phartneriaethau sifil, ynghyd â chynnal ystod eang o seremonïau eraill, hefyd yn rhan o rôl a chyfrifoldebau deiliad y swydd.

Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen…

Am beth rydym ni’n chwilio

Bydd gennych safon dda o addysg a phrofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Dylech fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, yn gallu dilyn cyfarwyddiadau technegol / statudol ac yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth ymarferol o’r rheoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.

Mae’r Gymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon, felly os oes gennych feistrolaeth dda o’r Gymraeg yna bydd o fantais, er nid yw’n hanfodol.

Mae hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a chywirdeb yn ffactorau allweddol o fewn y swydd hon.

Mae trwydded yrru lawn a’r defnydd o gar yn hanfodol gan y bydd gofyn i chi deithio i leoliadau eraill yn ôl y galw.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 15 Tachwedd.

EWCH Â FI AT Y SWYDD