Efallai y bydd mwy o bobl yn gymwys i roi gwaed neu blatennau yng Nghymru heddiw ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd (dydd Llun 14 Mehefin), yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau cymhwysedd a ofynnir.
Bydd set newydd o gwestiynau safonol yn cael eu gofyn i bob rhoddwr am eu hymddygiadau rhywiol, waeth beth fo’u rhyw, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y tri mis diwethaf, sy’n golygu y bydd mwy o bobl o gymunedau LGBTQ+ yn gymwys i roi gwaed.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Cyflwynwyd y newid yn dilyn argymhellion a wnaed gan grŵp llywio FAIR (For the Assessment of Individualised Risg), cydweithrediad ar draws y DU sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl wasanaethau gwaed y DU, arbenigwyr meddygol a gwyddonol, grwpiau LGBTQ+, yn ogystal â detholiad o gleifion a rhoddwyr.
Nawr, mae’r cwpl priod Carl a Martin o Newbridge yn gymwys i roi gwaed, yn dilyn y newid hwn.
Meddai Carl, sy’n Reolwr Ansawdd: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu gwneud apwyntiad i roi gwaed o dan y newidiadau hyn. Rwy’n ddiolchgar am ymdrechion ymgyrchwyr, academyddion a chlinigwyr sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd. Nid yw ond yn deg yn y gymdeithas heddiw, y dylai ymddygiadau pawb gael eu trin yr un fath, ac nid yn ôl rhyw eu partner”.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwerthiannau, Martin: “Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig iawn i Carl a fi. Gyda’n gilydd, gallwn nawr roi rhoddion o waed a allai achub bywydau i helpu cleifion mewn angen. Cafodd fy nhad nifer o drallwysiadau gwaed, a byddaf yn ddiolchgar am byth i’r rhoddwyr hynny am eu cefnogaeth. Cafodd fy nith lawer o drallwysiadau gwaed hefyd yn ystod ei thriniaeth ar gyfer lewcemia. Mae hi wedi gwella erbyn hyn diolch byth, ac rwy’n falch iawn o fedru helpu rhywun fel hi gobeithio, i wella ar ôl salwch mor ddifrifol.”
Mae Shane Andrews MBE, wedi gwneud apwyntiad i roi gwaed am y tro cyntaf hefyd, ar 14 Mehefin.
Meddai Shane: “Fel Cadeirydd Archway (rhwydwaith gweithwyr LHDT+ Network Rail), rwyf wedi bod yn ymwneud yn helaeth â gwella amrywiaeth a chynwysoldeb yn y diwydiant rheilffordd, ac rwy’n falch iawn fy mod i nawr yn rhan o’r newidiadau hyn a gyflwynwyd heddiw.
“Heddiw yw fy rhodd gyntaf ond yn bendant, nid yr olaf. Rwy’n bwriadu rhoi gwaed yn rheolaidd nawr, ac rwy’n teimlo anrhydedd o fod yn dechrau ar fy nhaith achub bywydau ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd ond hefyd, yn ystod mis Pride.”
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen tua 350 o roddion gwaed bob dydd i sicrhau cyflenwad cyson o gydrannau gwaed a gwaed hanfodol i 20 o ysbytai ar draws y wlad.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Rydym wrth ein bodd o fod yn dathlu Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd drwy groesawu mwy o bobl i’n tîm achub bywydau o roddwyr gwaed a phlatennau.
“O heddiw ymlaen, gall mwy o bobl roi gwaed yn ddiogel diolch i feini prawf cymhwysedd newydd a thecach.
“Er nad yw gwasanaethau gwaed yn gyfrifol am osod y rheolau ynghylch rhoi gwaed, rydym wrth ein bodd bod ein gwaith gyda grŵp llywio FAIR wedi arwain at y rheoliadau newydd.
“Os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o’r blaen, ystyriwch ein cefnogi drwy roi gwaed yn eich clinig rhoi gwaed lleol.”
Dywedodd Zoe Gibson, Pennaeth Nyrsio Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae diogelwch cleifion wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’r holl roddion yn cael eu profi am heintiau sylweddol cyn eu hanfon i ysbytai, i sicrhau diogelwch y gadwyn cyflenwi gwaed.
“Nawr, bydd pob rhoddwr yn cael ei holi am eu hymddygiadau rhywiol diweddar a allai fod wedi cynyddu eu risg o gael haint. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhai rhoddwyr yn gymwys i roi gwaed ar y diwrnod, ond y gallant fod yn gymwys i roi gwaed yn y dyfodol.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod rhoddwyr yn gallu ateb y cwestiynau cyn rhoi gwaed mewn lleoliad sy’n gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i sicrhau bod y sgyrsiau mwy personol hyn yn cael eu cynnal gyda gofal a sensitifrwydd, a bod yr wybodaeth gywir yn cael ei nodi.
“Rydym yn gofyn i roddwyr ystyried y cwestiynau newydd hyn ochr yn ochr â chwestiynau iechyd a theithio presennol pan fyddant yn trefnu apwyntiad, fel y gallant aildrefnu ar gyfer dyddiad diweddarach os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wbs.wales/FAIR heddiw.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF