Wrth i wyliau’r haf prysur agosáu, mae llawer o bethau wedi’u cynllunio ar gyfer cadw pobl ifanc yn brysur.
I ddechrau, mae darpariaethau gwaith chwarae gwych sy’n rhoi hawl plant i chwarae yn y gymuned ar frig eu rhaglen. Maent ar gael ar draws y sir, ac mae’r staff i gyd yn weithwyr chwarae profiadol. Mae’r sesiynau am ddim ac yn cael eu hanelu at adael i blant deimlo’n hyderus i chwarae yn eu cymunedau lleol, lle gallant wynebu rhwystrau o dro i dro.
Cymerwch gip ar y fideo ar frig y dudalen hon i ddarganfod beth sy’n digwydd. Yr unig sicrwydd yw y bydd llawer o hwyl a byddant mwy na thebyg yn creu llanast!
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Gallwch ddod o hyd i ragor am y ddarpariaeth chwarae yma
Mae manylion ar le fydd y ddarpariaeth chwarae dros wyliau’r haf ar gael yma
Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth gwaith chwarae, cewch y newyddion diweddaraf am beth sy’n digwydd drwy ddilyn tudalennau ein cyfryngau cymdeithasol:
twitter.com/cbswrecsam
facebook.com/cyngorwrecsam
Neu cewch gopi am ddim o ganllaw digwyddiadau gwyliau’r haf sy’n rhoi manylion ar beth sy’n digwydd yn ein parciau gwledig, ein hamgueddfeydd a darparwyr eraill drwy anfon neges e-bost at: fis@wrexham.gov.uk fis@wrexham.gov.uk
Bydd nofio am ddim hefyd yn cael ei gynnal yng Nghanolfannau Hamdden Freedom a gallwch ddod o hyd i fanylion yma
“Paratowch i wlychu a chreu llanast”
A pheidiwch ag anghofio am ‘Ddiwrnod Chwarae’, diwrnod pan mae plant yn meddiannu canol y dref ac yn cael amser da yn chwarae. Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan ein tîm chwarae, ac rydym fwy na bodlon rhoi canol y dref iddynt, felly gorau po fwyaf- byddwch yn barod i wlychu a gwneud llanast fodd bynnag, efallai y bydd arnoch angen hen ddillad a set lân o ddillad.
Mwynhewch y gwyliau, a chadwch lygad ar beth sy’n mynd ymlaen – mae llawer o ddigwyddiadau am ddim, ond os nad ydynt, maent yn eithaf rhesymol, a byddwch yn talu am ddeunyddiau’n unig.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN