Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2018 12:53 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam
RHANNU

Os ydych yn defnyddio gorsaf fysiau Wrecsam byddwch yn falch i wybod fod y Swyddfa Wybodaeth bellach wedi agor i’r cyhoedd yn dilyn y cyhoeddiad fod The Skiers Lodge (TSL) wedi derbyn contract 3 blynedd i gynnal y cyfleuster ar ein rhan.

Cynnwys
  • “Lle sy’n gyffredinol lân a dymunol i gyrraedd iddo”
  • “Ar agor 6 diwrnod yr wythnos”
  • “Profiad wedi ei hen sefydlu”
  • “Grant o £73,000”

Bydd y Swyddog Gwybodaeth yn darparu amserlenni bws ar gyfer pob gweithredwr ac yn darparu gwasanaeth cyfeirio allweddol i wasanaethau allweddol ar draws Wrecsam.

“Lle sy’n gyffredinol lân a dymunol i gyrraedd iddo”

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r orsaf fysiau yn rhan bwysig o’r argraff gyntaf y mae ymwelwyr i Wrecsam yn ei gael wrth iddynt gyrraedd yma felly mae’n hanfodol ein bod yn siŵr ei fod yn hawdd ei ddefnyddio, ac yn lle su’n gyffredinol lân a dymunol i gyrraedd iddo. Rwy’n falch iawn i groesawu TSL i ymuno â ni i staffio’r Swyddfa a darparu gwybodaeth i ymwelwyr am y cludiant sydd ar gael, bysiau’n cyrraedd ac yn gadael ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau eraill y cyngor a gwasanaethau i ymwelwyr yng nghanol y dref.”

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

“Ar agor 6 diwrnod yr wythnos”

Bydd y Swyddfa Wybodaeth ar agor 6 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 08:00am a 6:00pm ac ar gau am egwyl fer ar gyfer cinio rhwng 12:45pm – 13:15 pm bob dydd.

Mae TSL ar hyn o bryd yn gweithredu’r gwasanaeth bws ‘easyBus’ o Wrecsam i Feysydd Awyr Manceinion a Lerpwl ar ran Stelios a’r easyGroup. Mae’r gwasanaeth hwn wedi bod yn gweithredu’n ddyddiol ers mis Hydref 2016 gyda phrisiau’n dechrau o £4.99 un ffordd. Mae TSL hefyd yn gweithredu gwasanaeth bws 64 o Geiriog DC i Langollen dan y brand ‘easyCoach’.

“Profiad wedi ei hen sefydlu”

Dywedodd Perchennog TSL, Andrew Martin; “Mae gan ein tîm brofiad wedi ei hen sefydlu o ddarparu gwasanaethau gyda gwerth am arian gwych i ddefnyddwyr bysiau yn y DU, Y Swistir, a Ffrainc dros y 15 mlynedd ddiwethaf ac mae’n gyffrous i fod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam ar y prosiect newydd hwn.”

“Mae ailagor y gwasanaeth gwybodaeth bysiau, ynghyd ag adfywio cyfleusterau’r orsaf fysiau, yn newyddion da i ddefnyddwyr bysiau yn Wrecsam ac rydym yn falch i fod yn darparu’r gwasanaeth hwn sydd ei angen yn fawr”.

Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam

“Grant o £73,000”

Mae agor y Swyddfa Wybodaeth a gwelliannau eraill sy’n digwydd yn yr Orsaf Fysiau yn bosibl oherwydd grant o £73,000 gan Lywodraeth Cymru a chyllideb y cyngor. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu rhagor o gyllid ar gyfer gwelliannau i’r orsaf fysiau a fydd yn cynnig cysylltiadau cludiant allweddol yng Nghanol Tref Wrecsam.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Allwn ni weithio i chi? Allwn ni weithio i chi?
Erthygl nesaf Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English