Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion Da i Ysgol Acrefair
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion Da i Ysgol Acrefair
Busnes ac addysgPobl a lle

Newyddion Da i Ysgol Acrefair

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 5, 2018 2:39 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Newyddion Da i Ysgol Acrefair
RHANNU

Mae un o’n hysgolion cynradd wedi cael adroddiad da iawn yn ddiweddar gan yr arolygwyr addysg, Estyn.

Derbyniodd Ysgol Acrefair raddfa “Da” ar draws pob maes, gan dderbyn canmoliaeth arbennig gan arolygwyr ar gyfer meysydd safonau, lles, addysgu, gofal ac arweinyddiaeth.

Mae’r adroddiad (dolen gyswllt Saesneg) yn datgan bod gan yr ysgol “amgylchedd cyfeillgar a gofalgar”, gyda safon dda o ymddygiad a hunanddisgyblaeth ymysg disgyblion yn y rhan fwyaf o wersi o amgylch yr ysgol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Mae’n nodi hefyd bod yr ysgol yn cynllunio’r cwricwlwm yn effeithiol, gydag athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau creadigol drwy “ystod eang o weithgareddau diddorol”.  Mae “prosiectau awyr agored cyffrous” yn elfen gadarn iawn, gan gynnwys defnydd o’r Ysgol Goedwig.

Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn cael ei chanmol hefyd, gan nodi fod “y pennaeth yn darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfarwyddyd strategol clir ar gyfer gwaith yr ysgol.”

Mae’r adroddiad yn ychwanegu: “Bod diwylliant cryf o welliant parhaus ac mae camau gweithredu yn cefnogi’r gwelliant hwn yn dda . Mae staff yn rhannu cyfrifoldebau arwain yn llwyddiannus. Mae’r ysgol yn ymgysylltu’n dda gyda rhieni ac wedi cyfathrebu ei gweledigaeth a’i gwerthoedd yn effeithiol.”

Dywedodd Rebecca Turner, Pennaeth Ysgol Acrefair: “Rwy’n falch iawn gyda sylwadau arolygwyr Estyn yn yr adroddiad.

“Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae lle i wella o hyd, a byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r argymhellion a amlinellodd Estyn, ond rydym yn falch iawn gyda dyfarniad yr adroddiad, a hoffwn ddiolch i’r staff a’r disgyblion am eu gwaith caled wrth ein helpu i gyflawni’r safonau hyn.”

Dywedodd Mrs Lynda Broe, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rwy’n dymuno llongyfarch Mrs Turner a’r holl aelodau staff ar ran y corff llywodraethu am Adroddiad Arolygu llwyddiannus iawn, sy’n adlewyrchu’r ymroddiad i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn profiad addysg llawn cyfoeth a boddhad drwy gydol eu blynyddoedd cynradd.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Dylid llongyfarch Ysgol Acrefair am eu hadroddiad gan Estyn – mae cyflawni ‘Da’ ar draws pob maes yn dipyn o gamp, a byddwn yn parhau i gefnogi’r ysgol wrth iddi weithio i gyflawni’r argymhellion a nododd yr arolygwyr o fewn yr adroddiad.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae parti Nadolig yn digwydd - ac mae gwahoddiad i bawb! Mae parti Nadolig yn digwydd – ac mae gwahoddiad i bawb!
Erthygl nesaf Wrecsam dan ei sang ar gyfer digwyddiadau Wrecsam dan ei sang ar gyfer digwyddiadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English