Gall angerdd at ddarllen fod yn hynod werthfawr i blant. Mae buddion darllen hamdden yn cynnwys mwy o wybodaeth gyffredinol, effaith gadarnhaol ar gyflawniad academaidd, gwell gallu darllen a thwf geirfa.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai amser a dreulir yn darllen er pleser fod yn ddangosydd allweddol ar gyfer llwyddiant plentyn yn y dyfodol. Mae darllen yn uchel hefyd yn meithrin angerdd at lyfrau mewn plant, ac yn helpu plant i gysylltu darllen â phleser.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Os hoffech chi gefnogi darllen eich plant gyda llyfrau hwyliog a hygyrch i ddarllen beth am roi galwad i’ch llyfrgell leol a chael sgwrs gyda’r staff i ddod o hyd i’r llyfrau cywir i’ch plant?
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar https://www.wrecsam.gov.uk/services/llyfrgelloedd
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH