Mae ein grŵp o drochwyr llwyddiannus 2023/24 bellach yn cael eu rhyddhau mewn camau i addysg prif ffrwd ar ôl dod yn gwbl ddwyieithog mewn ychydig dros 12 mis!
Mae’r ddarpariaeth Drochi yn cefnogi plant o leoliadau cynradd cyfrwng Saesneg i drosglwyddo i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cwrs pontio dwys yn ystod tymor yr haf ym mlwyddyn 6 tan ddiwedd blwyddyn 8. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn gallu dod yn gwbl rugl mewn oddeutu blwyddyn!
Dywedodd Nyla Pearson, disgybl Blwyddyn 7: “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn.” Wnes i erioed ddychmygu y byddai hynny’n bosibl. “Rwyf wir wedi mwynhau’r flwyddyn ddiwethaf, gwneud ffrindiau newydd, yr holl weithgareddau a gemau llawn hwyl ac rwy’n falch ac yn drist fod ein hamser yma yn dod i ben.”
Bu i’r grŵp 2023-24 ddathlu eu llwyddiant gyda thaith ddiweddar i Glan-llyn yn ogystal â chael parti ffarwelio.
Dywedodd Dylan Pugh, disgybl Blwyddyn 8: “Roedd y profiad a gawsom yng Nglan-llyn yn wych oherwydd roedd y staff yn garedig ac yn ein hannog gyda’n Cymraeg. “Roedd y gweithgareddau’n hwyl a chawsom y cyfle i gymysgu â myfyrwyr Trochi eraill o ysgolion eraill.”
Mae’r tîm Trochi bellach yn paratoi at groesawu mewnlifiad newydd o fyfyrwyr sydd ag wythnosau cyffrous o’u blaen ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg. Gall y myfyrwyr edrych ymlaen at ymweld â Llaethdy Mynydd Mostyn, lle byddant yn dysgu am fywyd ar y fferm yn y Gymraeg, sesiynau pêl-droed (yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gydag un o chwaraewyr pêl-droed Wrecsam, Lili Jones), gig a sesiwn holi ac ateb gyda’r gantores Megan Lee, yn ogystal â sesiwn podlediad, animeiddiad a gemau buarth.
Dywedodd Hannah Thomas, rhiant i fyfyriwr Blwyddyn 7 a Blwyddyn 6: “Rwy’n falch fod fy mhlant wedi penderfynu cymryd rhan yn y cwrs Trochi yn Ysgol Morgan Llwyd, dechreuodd fy merch y llynedd ac mae fy mab wedi dechrau eleni. “Mae’r staff yn wych ac mae’r plant yn hapus iawn yn y dosbarth. “Nid ydynt yn ofn codi unrhyw bryderon neu broblemau sydd ganddynt ac mae’r athrawon bob amser yn gwneud yn siŵr fod pethau’n cael eu trin ac mae’r plant (a minnau) yn cael eu cefnogi, mae’r cyfathrebu gan y staff yn ardderchog.
“Mae pob dosbarth i’w weld wedi meithrin perthynas dda iawn ac mae fy mhlant eisoes wedi gwneud ffrindiau arbennig.
“Mae’r gyfradd y mae fy merch wedi dysgu sut i siarad Cymraeg yn wych ac er nad yw fy mab wedi bod ar y cwrs Trochi yn hir, mae ef a’i chwaer eisoes yn cael sgyrsiau yn y Gymraeg gartref. “Mae’r cwrs wedi codi cymaint ar hyder fy merch ac mae hi wir yn mwynhau’r gwersi yn y grŵp Trochi.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chefnogwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Nid yn unig yw bod neu ddod yn siaradwr Cymraeg yn cyfoethogi, ond mae hefyd yn agor drysau ac yn cynnig cyfleoedd. “Mae cyfle o hyd i fyfyrwyr ymuno â’r cynllun Trochi ar gyfer eleni, rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn y maent newydd ei ddarllen i gysylltu â trochi@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth.”