Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Ni fu erioed mor bwysig” – nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > “Ni fu erioed mor bwysig” – nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn
Pobl a lle

“Ni fu erioed mor bwysig” – nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn

Diweddarwyd diwethaf: 2021/10/01 at 3:10 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Flu Jab
RHANNU

Erthyl Gwadd – Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynnwys
AmddiffynDdiweddaruGwahoddiadau

Mae gweithwyr gofal iechyd ar y rheng wedi galw ar bobl ledled Gogledd Cymru i amddiffyn eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddynt drwy gael y brechlyn ffliw y gaeaf hwn.

Mae nyrsys o bob rhan o ardal Betsi Cadwaladr wedi dod ynghyd i annog y boblogaeth i dderbyn y cynnig o gael eu brechu – i gadw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau yn ddiogel.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Gall firws y ffliw fod yn angheuol ac yn nodweddiadol mae’n arwain at ddwsinau o dderbyniadau i unedau gofal critigol ledled Gogledd Cymru bob blwyddyn.

Bydd degau o filoedd o bobl 50 mlwydd oed a hŷn yn cael eu galw am frechlyn ffliw am ddim o ddechrau ymgyrch eleni am y tro cyntaf. Mae grwpiau blaenoriaeth eraill yn cynnwys plant dwy a thair blwydd oed, gweithwyr iechyd a gofal, ac unrhyw un sydd â chyflwr iechyd tanategol.

Amddiffyn

Mae’r nyrs anadlol arbenigol Linda Tadgell wedi brechu miloedd rhag y ffliw dros y bum mlynedd diwethaf yn ei rôl yn brechu staff rhag y ffliw yn y bwrdd iechyd.

Llynedd, derbyniodd wobr genedlaethol am ei rôl yn brechu ei chydweithwyr yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd: “Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael eich brechlyn ffliw eleni, oherwydd bydd yn helpu i’ch amddiffyn chi a’r bobl sy’n bwysig i chi – y rhai sy’n annwyl i chi, teulu a ffrindiau, a pherthnasau sy’n agored i niwed neu a allai fod ar y rhestr warchod.

“Mae cael pigiad y ffliw yn hawdd – mae’n cymryd pum munud, mae am ddim i bobl mewn grwpiau targed, ac mae’n lleihau’r risg o salwch difrifol.”

Ategwyd ei neges gan Katherine White, Nyrs Arbenigol Rheoli Meddyginiaethau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

“Gall ffliw ledaenu’n hawdd iawn. Gallwn wneud ein rhan i amddiffyn ein hunain trwy olchi ein dwylo yn rheolaidd, a thrwy disian a pheswch i mewn i hancesi a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi yn y bin sbwriel,” meddai.

“Eleni yn fwy nag erioed, oherwydd COVID, mae mor bwysig bod pobl yn gwneud yr hyn a allant i amddiffyn eu hunain ac eraill – a thrwy gael y brechlyn ffliw gallwn amddiffyn y bobl hynny sy’n fwy agored i niwed.”

Ddiweddaru

Mae’r dadansoddwr ymddygiad, Tony Green, yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Anghenion Cymhleth yn Bryn Y Neuadd yn Llanfairfechan.

Dywedodd: “Os ydych chi’n dal y ffliw yna fe allech chi fynd adref, efallai ei roi i’ch teulu, eich plant, neu berthnasau oedrannus yn arbennig a allai fod yn llawer mwy agored i niwed, ac unrhyw un sydd ag unrhyw gymhlethdodau iechyd tanategol.

“Mae’r ffliw yn gyflwr difrifol, gyda chanlyniadau difrifol. Fel y gwyddom, mae’r ffliw yn newid bob blwyddyn – felly mae’n bwysig cael eich pigiad yn flynyddol i ddiweddaru’r amddiffyniad hwnnw.”

Mae Nyrs Endosgopi dan Hyfforddiant, Sandra Ewing, yn gwirfoddoli i frechu ei chydweithwyr yn Ysbyty Gwynedd rhag y ffliw.

“Rydym eisiau i bobl fod yn iach ac rydym eisiau i’n staff fod yn iach,” dywedodd. “Rydym eisiau gostwng yr effaith ar ofal critigol a gostwng y pwysau ar welyau ysbyty.

“Fy nghyngor i fyddai nid yn unig meddwl amdanoch chi’ch hun, ond meddwl am yr amddiffyniad rydych chi’n ei roi i eraill hefyd. Mae’n bwysig iawn – ni fu erioed mor bwysig.”

Gwahoddiadau

Dylai pobl mewn grwpiau blaenoriaeth o ran eu brechu gadw llygad am wahoddiadau i dderbyn eu brechiad ffliw o’u meddygfa, neu fynd i un o’r dwsinau o fferyllfeydd cymunedol sy’n rhoi brechlynnau ffliw ledled Gogledd Cymru y gaeaf hwn.

Bydd plant ysgol yn derbyn eu brechlyn ffliw trwy chwistrell drwynol yn eu hysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Teresa Owen, fod y GIG yng Ngogledd Cymru unwaith eto’n wynebu’r posibilrwydd o aeaf hynod o brysur, gyda choronafeirws yn cylchredeg yn eang yn y gymuned.

“Oherwydd ymgyrch brechu rhag y ffliw llwyddiannus a mesurau i reoli lledaeniad COVID-19, prin iawn oedd yr achosion o ffliw yng Ngogledd Cymru y gaeaf diwethaf,” meddai.

Ond, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio dros y misoedd diwethaf, mae risg wirioneddol o’r ffliw y gaeaf hwn. Gyda mwy ohonom yn crwydro a chymdeithasu, mae gan firws y ffliw mwy o gyfle i ledaenu.

“Os ydych yn bodloni’r meini prawf, y peth gorau y gallwch ei wneud i aros yn iach y gaeaf hwn yw sicrhau eich bod yn cael eich brechlyn ffliw a’ch pigiad atgyfnerthu COVID. Bydd hyn yn rhoi’r amddiffyniad gorau posibl i chi a’r rhai sy’n annwyl i chi yn erbyn y ddau firws, yn helpu i arafu eu lledaeniad, ac yn helpu i amddiffyn y GIG.”

Am fwy o wybodaeth am frechlyn y ffliw cliciwch yma.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymrwch y frechiad Nodyn briffio Covid-19 – sut i leihau eich siawns o fynd i’r ysbyty gyda Covid…
Erthygl nesaf Climate Change Newid Hinsawdd – beth rydym yn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)

Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
DigwyddiadauPobl a lle

Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English