Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llwyddo i erlyn asiant gosod a landlord yn ddiweddar am beidio cydymffurfio â rheolau a rheoliadau sy’n ymwneud ag un o’u heiddo.
Cafodd landlord preifat yn Wrecsam ei erlyn gan y cyngor am weithredu tŷ amlfeddiannaeth didrwydded (HMO).
Yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddoe, roedd y landlord Jane Sabio – oedd wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad cynharach – wedi derbyn dirwy o £5,000 gyda chostau o £1,697 a £170 o ordal dioddefwr hefyd.
Roedd swyddog o’n tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai wedi canfod yr HMO didrwydded yn ystod archwiliad ar ôl edrych i mewn i gwyn o ganlyniad i ddiffyg atgyweiriadau.
Roedd yr asiantaethau gosod tai Countrywide, sy’n masnachu fel Beresford Adams hefyd wedi pledio’n euog i nifer o dorri rheolau yn yr un eiddo, gan gynnwys mesurau diogelwch tân annigonol a methu cyflwyno tystysgrif diogelwch trydanol i Gyngor Wrecsam.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys yr Ynadon Wrecsam yn gynharach y mis hwn, cafodd Countrywide ddirwy o £22,500 a £107 o ordal dioddefwr a £2,819 o gostau.
“Gweithio’n rhagweithiol gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod tai”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i gydweithio a landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i’w helpu nhw ac er mwyn codi safonau ar gyfer tenantiaid.
“Fodd bynnag, os ydynt yn dewis peidio â chydweithredu a chydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd camau gweithredu, fel y mae’r achos diweddar yn ei ddangos.”
Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai yn sicrhau bod HMOs yn cael eu trwyddedu a’u cynnal yn briodol, ond os bydd eich landlord neu asiantaeth gosod tai yn methu cael trwydded HMO neu gynnal yr atgyweiriadau angenrheidiol a gwneud trefniadau diogelwch tân digonol, gallwch gysylltu â’r tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai drwy e-bost yn HealthandHousing@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292040.
Rydym yn cadw rhestr o HMOs a drwyddedir ar hyn o bryd ar ein gwefan, a hefyd yn darparu gwybodaeth ar beth yw HMO a sut y gallant gael eu trwyddedu.