Yn ystod y degawd diwethaf mae ein cyllid wedi’i dorri gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cael ein gorfodi i dorri ein cyllideb dros £62 miliwn ers 2008 ac rydym wedi gorfod lleihau’r gweithlu gyda dros 600 o bobl.
Rydym yn cael ein gorfodi i wneud hyd yn oed mwy o doriadau nawr.
Mae cynghorau ar draws y DU yn mynd drwy amser caled, ac yn Wrecsam mae’r cyllid rydym yn ei dderbyn gan lywodraethau’r DU a Chymru eisoes yn llai na chyfartaledd fesul unigolyn yng Nghymru.
Mae pethau ar fin gwaethygu. Rydym yn disgwyl hyd yn oed llai o gyllid eleni.
Mae’r ansicrwydd o amgylch gwleidyddiaeth cenedlaethol yn ei gwneud yn anodd rhagweld nawr, ond rydym yn meddwl y byddwn angen arbed o leiaf £5.4 miliwn yn 2019-20… ac efallai cymaint â £7.2 miliwn.
Yn ogystal, rydym yn meddwl y byddwn o leiaf £9.8 miliwn yn brin dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r cyfan yn dibynnu ar beth mae llywodraethau’r DU a Chymru yn penderfynu sydd fwyaf pwysig …. ac ni fyddwn yn gwybod yn iawn tan fis Tachwedd.
Mynd y tu hwnt i’r pwynt di-droi’n-ôl
Fel y soniwyd ar ddechrau’r erthygl hon, rydym wedi cael ein gorfodi i dorri ein cyllideb gyda dros £62 miliwn ers 2008. Mae hynny’n cyfateb i dros 25% o’n cyllideb bresennol o £237miliwn.
Er bod cyllid Wrecsam wedi’i gwtogi gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i wneud arbedion drwy fod yn fwy effeithiol ac rydym wedi ceisio osgoi torri gwasanaethau lle bo hynny’n bosibl.
Fodd bynnag, nid oes amheuaeth y byddwn yn gorfod torri gwasanaethau y tro hwn a bydd yn rhaid i ni roi’r gorau i rai pethau yn gyfan gwbl.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Nid ydym eisiau gwneud hyn. Ond nid oes gennym unrhyw ddewis.
“Mae Llywodraeth Cymru yn raddol llwgu ein cyllid – gan ein gorfodi i dorri’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl leol. Mae’n dorcalonnus. Nid yw pobl Wrecsam yn haeddu hynny.
“Ond rydym bellach wedi mynd heibio’r pwynt di-droi’n-ôl ac nid oes gennym unrhyw ddewis ond torri neu roi’r gorau i wasanaethau pan mae ein cyllideb wedi gostwng gymaint.
“Byddwn yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru nes bydd yn sylweddoli nad yw’n gallu parhau i dorri gwasanaethau cyhoeddus a gadael i lefydd fel Wrecsam ddioddef.
“Ac rydyn ni’n annog pobl i lobïo eu Haelodau Cynulliad i gael bargen well i Wrecsam.
“Ond nid oes unrhyw amheuaeth y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn fydd yn effeithio ar bobl leol.”
Nid ydym yn meddwl fod gennym ddewis, ond…
Mae’r cyngor wedi llunio cynigion i arbed arian ac wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, sy’n gyfrifol am arwain yr ymgynghoriad: “Er nad ydym yn meddwl fod gennym lawer o ddewis ond gwneud y toriadau arfaethedig hyn, hoffem wybod beth yw barn bobl a rhoi cyfle i bawb gyflwyno syniadau eraill.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn deall sut mae pobl yn teimlo am y cynigion hyn, a bydd ond yn cymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur. …. felly cymerwch ran os gwelwch yn dda.”
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Creu mwy o incwm o ganolfannau adnoddau cymunedol a’r Neuadd Goffa.
- Codi mwy am rai gwasanaethau (gofal cymdeithasol oedolion er enghraifft), i godi union gost darparu’r gwasanaeth.
- Cyflwyno casgliadau bin du/glas bob tair wythnos.
- Lleihau safon atgyweiriadau ffyrdd.
- Cynyddu ffioedd parcio yn ein meysydd parcio.
- Newid y ffordd yr ydym yn darparu digwyddiadau a gweithgareddau yn ein parciau gwledig, neu roi’r gorau iddynt yn gyfan gwbl.
- Ystyried cynnydd o 5.5% o leiaf yn Nhreth y Cyngor.
Bydd yr ymgynghoriad – a elwir ‘Penderfyniadau Anodd – Toriadau Pellach’ – yn rhedeg tan Tachwedd 13, 2019, a dylai ond gymryd tua phum munud i’w lenwi ar-lein.
Os na fyddwch yn gallu ei lenwi ar-lein gallwch ofyn am gopi papur drwy ffonio 01978 292000.
Bydd eich adborth – ynghyd ag adborth o ymgynghoriadau eraill fel adolygiad o’n gwasanaethau llyfrgell – yn ein helpu i wneud ein penderfyniadau cyllideb derfynol ym mis Chwefror 2020.
Efallai nad dyma’r diwedd
Yn anffodus, nid yw’r toriadau yr ydym yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd yn debyg o fod yr unig arbedion y bydd yn rhaid i ni edrych arnynt. Mae mor ddrwg â hynny.
Meddai’r Cynghorydd Pritchard: “Bydd yn rhaid i ni edrych ar hyd yn oed mwy o ffyrdd i leihau’r hyn rydym yn ei wario – rhag ofn y bydd ein cyllideb gan Lywodraeth Cymru mor wael ag yr ydym yn meddwl y bydd.
“Ond oherwydd na fydd ein cyllid yn cael ei gadarnhau tan fis Tachwedd, ni fydd gennym amser i gynnal ymgynghoriad llawn arall ar unrhyw fesurau ychwanegol sydd eu hangen i gydbwyso’r llyfrau … felly mae’r ansicrwydd a’r amseru yn gwneud hyn yn anodd iawn.
“Fodd bynnag, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori gyda’r grwpiau sy’n fwy tebyg o gael eu heffeithio cyn i ni gymryd unrhyw gamau.
“Mae’n sefyllfa drist, ac os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gosbi Wrecsam blwyddyn ar ôl blwyddyn, ni fydd llawer o brif wasanaethau yn goroesi… ni fydd yna lawer ar ôl yn y diwedd.
“Bydd yr effaith ar fywydau pobl yn eithaf drwg.”
Rydym wedi cael ein gorfodi i wneud hyd yn oed mwy o doriadau. Ond cyn i ni wneud unrhyw beth, hoffem glywed eich barn chi.
DWEUD EICH DWEUD