Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio trigolion am dwyll yn ymwneud â Grant Cartrefi Gwyrdd y llywodraeth, sydd ond ar gael i drigolion yn Lloegr.
Mae’r grant yn rhoi talebau i bobl sy’n byw yn Lloegr – gwerth £5,000 a £10,000 – i helpu gyda gwelliannau i’r cartref.
Gan fod y grant wedi derbyn sylw eang yn ddiweddar, mae ofn y bydd pobl yn bod yn rhy barod i wrando pan fydd y twyllwyr yn cysylltu â nhw ac yn anghofio meddwl a yw’r hyn sy’n cael ei gynnig yn ddilys.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Nid yw ar gael i unrhyw un yng Nghymru”
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r grant hwn ar gael i bobl sy’n byw yn Lloegr yn unig, felly os bydd rhywun yn cysylltu â chi am y Grant Cartrefi Gwyrdd yng Nghymru, rydych yn sicr yn cael eich twyllo. Yn syml iawn, nid yw’r grant hwn ar gael i unrhyw un yng Nghymru.
“Pryd bynnag y bydd rhywbeth yn cael ei gynnig i chi, cymerwch ddigon o amser i wneud eich ymchwil a’i wirio’n drwyadl. Peidiwch a gadael i unrhyw un eich rhuthro i wneud penderfyniad byrbwyll y byddwch yn ei ddifaru, a holwch ffrindiau a theulu am gyngor. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i gadw’n ddiogel.”
Sut mae’r twyll yn gweithio
Gan mai dim ond nifer cyfyngedig o’r talebau £5,000 a £10,000 sydd ar gael, mae twyllwyr wedi bod yn defnyddio hyn i roi pwysau ar bobl drwy ddweud y byddant yn colli cyfle os na fyddant yn gweithredu’n gyflym.
Mae’r twyll wedi digwydd drwy wahanol ddulliau ar draws y DU yn ddiweddar.
Mae rhai pobl wedi derbyn galwadau ffôn ac mae’r galwr wedi rhoi pwysau arnynt i roi eu manylion banc. Mae llu o negeseuon testun ac e-bost wedi cael eu hanfon at bobl hefyd yn gofyn iddynt drosglwyddo gwybodaeth bersonol.
Mae galw ar y stepen drws hefyd yn broblem fawr, gydag unigolion twyllodrus yn dod i gartrefi pobl i gynnig dêl iddynt. Cofiwch, yn anaml iawn – os o gwbl – y bydd masnachwyr dilys yn galw’n ddirybudd yn eich eiddo.
Rhywfaint o gyngor
Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu roi eich gwybodaeth bersonol:
STOPIWCH – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.
HERIWCH – A allai fod yn ffug? Mae’n iawn i chi wrthod neu anwybyddu cynigion o’r fath. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio’ch rhuthro i wneud penderfyniad neu’n codi braw arnoch.
AMDDIFFYNNWCH – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.
Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.
Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.
Os ydych chi wedi derbyn e-bost nad ydych yn hollol siŵr amdano, gallwch ei anfon at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus drwy anfon e-bost i report@phishing.gov.uk
Adrodd am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throseddau Seiber yn y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Arhoswch yn ddiogel ac yn ymwybodol o sgamiau.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG