Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen NODYN ATGOFFA: Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – adnewyddu o 28 Mehefin
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > NODYN ATGOFFA: Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – adnewyddu o 28 Mehefin
Y cyngor

NODYN ATGOFFA: Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – adnewyddu o 28 Mehefin

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2021 9:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Adnewyddu o 28 Mehefin

Os ydych chi’n bwriadu adnewyddu, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth eto! Rydym yn bwriadu dechrau derbyn ceisiadau i adnewyddu o ddydd Llun, 28 Mehefin, felly peidiwch â cheisio adnewyddu cyn y dyddiad hwn.

Cynnwys
  • Adnewyddu o 28 Mehefin
      • Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd
      • Sticeri newydd i’r sawl sy’n adnewyddu
      • Dim taliadau arian parod na sieciau
      • Heb gofrestru ar gyfer 2020/21, ond yn dymuno gwneud?

Fe gofiwch efallai bod dyddiad cychwyn y gwasanaeth wedi cael ei oedi llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ac o ganlyniad, cafodd pob tanysgrifiad ei ymestyn nes 31 Awst, 2021.

Felly, bydd cynllun 2021/22 yn weithredol o ddydd Llun, 30 Awst 2021 nes dydd Gwener, 2 Medi 2022.

Byddwn yn atgoffa preswylwyr o hyn yn gyson ar ein blog newyddion a sianeli ein cyfryngau cymdeithasol wrth i ni agosáu at y dyddiad hwn, felly nid oes angen poeni.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y wasanaeth ar £25 y flwyddyn, fesul bin gwyrdd, sy’n llai na sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr. Bydd ceisiadau i adnewyddu yn cychwyn ddydd Llun, 28 Mehefin, a’r ffordd mwyaf cyfleus i dalu ar gyfer y gwasanaeth yw ar-lein ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ein ffonio ar 01978 298989 i wneud taliad â cherdyn. Serch hynny, mae’n rhaid i ni bwysleisio, peidiwch â cheisio talu am y gwasanaeth hwn nes bydd ceisiadau i adnewyddu yn agor, ar 28 Mehefin. Diolch.”

Sticeri newydd i’r sawl sy’n adnewyddu

Bydd preswylwyr sy’n adnewyddu eu tanysgrifiad i’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin i sicrhau casgliadau.

Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn adnewyddu er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Llynedd, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Heb gofrestru ar gyfer 2020/21, ond yn dymuno gwneud?

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd (2020/21), ond rydych yn dymuno ein bod yn casglu eich bin(iau) gwyrdd dros y gwanwyn a’r haf, nid yw’n rhy hwyr i gofrestru.

Mae’n costio £25 fesul bin, gyda’n gwasanaeth cyfredol yn weithredol nes 21 Awst, 2021, felly gallwch fanteisio ar 3 mis o gasgliadau os ydych chi’n cofrestru mor fuan â phosib.

Gallwch gofrestru drwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd, sef y ffordd gyflymaf a’r mwyaf cyfleus. Fel arall, gallwch ffonio 01978 298989, er efallai bydd gofyn i chi aros mewn ciw os ydych chi’n gwneud hyn.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruabon Station Mynediad i’r anabl yng Ngorsaf Rhiwabon yn dal yn uchel ar yr agenda yn 2021
Erthygl nesaf Barker's Lane Mae disgyblion wrth eu boddau’n gweld yr estyniad a’r addasiadau yn Ysgol Lôn Barcas yn dechrau siapio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English