Hoffwn atgoffa preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y byddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd bob pythefnos eto o fis nesaf (Mawrth).
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi bod yn gwneud casgliadau gwastraff gardd ar sail fisol ostyngol ar draws mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror i ryddhau staff i’n helpu ni ddelio gyda phroblemau problematig oherwydd y gaeaf fel graeanu ffyrdd neu waith cynnal a chadw cyffredinol.
“Wrth i ni symud at y gwanwyn – a gobeithio tuag at dywydd gwell – mae preswylwyr yn fwy tebygol o wneud defnydd o’u bin(iau) gwyrdd, felly bydd y casgliadau hyn yn dychwelyd i bob pythefnos o fis Mawrth ymlaen.”
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Heb gofrestru ond yn dymuno gwneud hynny rŵan?
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn flaenorol, ond yn dymuno i ni gasglu eich bin(iau) gwyrdd dros y gwanwyn a’r haf, nid yw’n rhy hwyr i gofrestru.
Mae’n costio £25 y bin, gyda’n gwasanaeth presennol yn rhedeg tan Awst 31, 2021, fel eich bod yn dal i allu cael gwerth 6 mis o gasgliadau os ydych yn cofrestru’n fuan.
Am y ffordd fwyaf sydyn a chyfleus i gofrestru ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Fel arall, gallwch ffonio 01978 298989 er mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi aros am ateb.
Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan
Gallwch gadw llygad ar bryd i roi eich biniau gwastraff gardd allan drwy gofrestru ar gyfer ein hysbysiadau casglu sbwriel. Byddwch yn derbyn rhybudd dros e-bost ddiwrnod cyn y casgliad i’ch atgoffa chi. Os ydych eisoes yn derbyn yr e-byst hyn, nid oes arnoch chi angen newid dim byd.
Fel arall, gallwch lawrlwytho ac argraffu’r calendrau diweddaraf.
Gallwch hefyd weld gwybodaeth ynghylch eich casgliadau bin ar Fy Nghyfrif. Mae cofrestru yn syml iawn, a’r oll sydd arnoch chi angen ei wneud yw gwasgu Gwasanaethau > Gwastraff ac Ailgylchu > Gwirio’ch diwrnod bin.
Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn y rhybuddion cywir
Ydi’r person sydd yn rhoi’r biniau allan ar gyfer eich tŷ yn derbyn y rhybuddion cywir gennym ni? Os yw’r cyfeiriad e-bost wedi newid ers cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd, yr oll rydych angen ei wneud yw llenwi ein ffurflen gwirio’ch diwrnod bin.
Yr oll ydych angen ei gynnwys yw eich cod post, cyfeiriad ag e-bost a phwyso cyflwyno, drwy wneud hynny bydd eich system atgoffa ar e-bost yn diweddaru yn awtomatig a sicrhau eich bod yn derbyn y nodyn atgoffa.
CANFOD Y FFEITHIAU