A wnaethoch chi danysgrifio i gynllun biniau gwyrdd ychwanegol Wrecsam y llynedd? Os felly, darllenwch ymlaen.
Y llynedd cytunwyd y dylid codi tâl ar breswylwyr am wagio ail, trydydd neu bedwerydd bin gwyrdd ac fe danysgrifiodd llawer ohonoch i’r gwasanaeth.
Os hoffech barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn o fis Ebrill ymlaen bydd angen i chi gofrestru a thalu am y gwasanaeth dros y 12 mis nesaf a gallwch wneud hynny o 1 Mawrth.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Os hoffech i ni barhau i gasglu biniau gwyrdd gwastraff gardd ychwanegol o’ch eiddo, am gost flynyddol o £30.60 y bin, mae gwybodaeth am y gwasanaeth a sut i danysgrifio ar gael ar wefan www.wrecsam.gov.uk neu trwy gysylltu â Balchder yn eich Strydoedd ar 01978 298989.
Gallwch gadw unrhyw finiau ychwanegol sydd gennych er mwyn storio, ond dim ond biniau ychwanegol yr ydych wedi eu cofrestru a thalu amdanynt gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fydd yn cael eu gwagio o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Bydd sticer yn cael ei anfon atoch i’w roi ar y biniau hynny ar ôl i chi gofrestru.
Byddem yn eich cynghori’n gryf i nodi rhif neu enw eich cartref yn glir ar eich bin(iau) gwyrdd.
Cofiwch y gallwch hefyd fynd â’ch gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu Nwyddau’r Cartref agosaf neu, os oes gennych ddigon o le, ei roi mewn bin compost cartref.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU