Mae pethau’n gwella ond mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus
Y neges allweddol i bawb yr wythnos hon yw, rydym yn dangos cynnydd sicr gyda dod â nifer yr achosion Covid-19 i lawr yn Wrecsam, ond nid yw’r perygl wedi diflannu eto.
Ni yw’r gwaethaf yng Nghymru, ac mae angen i ni barhau â’r gwaith da i gadw’r niferoedd i lawr.
Mae’n bwysicach nag erioed nad ydym yn cymysgu gydag aelwydydd eraill, cadw pellter o ddau fetr rhwng eraill, golchi ein dwylo yn rheolaidd a gweithio o gartref os medrwn. Gwisgwch orchudd wyneb pan fo’n ofynnol, neu lle nad oes modd i chi gynnal cadw pellter cymdeithasol.
Os ydych chi, neu aelod o’ch teulu yn datblygu symptomau megis peswch, gwres neu newid i’ch synnwyr blasu neu arogli, mae’n rhaid i chi hunan-ynysu yn syth ac archebu prawf am ddim ar Cael prawf coronafeirws (COVID-19)
Mae pobl yn parhau i fod yn sâl, ac yn anffodus, yn marw gyda Covid-19, felly beth am i ni barhau gyda’r gwaith da o gadw Wrecsam yn ddiogel.
Amrywiolion Covid-19
Bu llawer o newyddion yn ddiweddar am amrywiolyn ‘De Affrig’ Covid-19, ac er bod pryder, nid oes unrhyw achosion wedi’u nodi yn Wrecsam ar hyn o bryd. Mae amrywiolyn y DU yn cyfrif am 90% a rhagor o achosion newydd yng Ngogledd Cymru.
Cofiwch bod yr amrywiolion a nodwyd eisoes llawer mwy trosglwyddadwy, felly dylai dilyn y canllawiau fod yn flaenoriaeth i ni gyd.
Vaccination Update
Mae cyflwyniad y brechlyn yn parhau, a dangoswyd cynnydd gyda mwy na 500,000 o frechiadau wedi eu rhoi yng Nghymru a mwy na 100,000 yng Ngogledd Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dechrau cyhoeddi data ar nifer y brechiadau yng Ngogledd Cymru, fesul cyngor, ar eu gwefan cyhoeddus. Gweler cynnydd cyflwyniad y brechlyn yma: Ystadegau brechu lleol ar gyfer Gogledd Cymru
Cofiwch, os ydych chi eisoes wedi cael eich brechlyn, mae angen i chi barhau i ddilyn y rheolau, aros gartref, peidio â chymysgu gydag aelwydydd eraill, cymryd sylw o hylendid eich dwylo, ac os oes angen i chi fynd allan am reswm hanfodol, cadwch bellter o 2 fetr rhyngoch chi ac eraill.
80 a throsodd – mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi cais i unrhyw un dros 80 gysylltu â nhw os nad ydynt wedi derbyn eu brechlyn eto. Os ydych chi, neu aelod o’r teulu, gymydog neu ffrind yn y grŵp oedran hwn, a heb dderbyn y brechlyn, neu heb apwyntiad, ffoniwch ar 03000 840004.
Defnyddiwch y rhif hwn os ydych chi dros 80 yn unig. Mae trefniadau ar gyfer brechu grwpiau oedran eraill yn parhau i fod yr un fath.
Os ydych chi’n 80 oed neu’n hŷn, neu’n adnabod rhywun sy’n 80 oed a hŷn ac sydd heb gael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 neu apwyntiad i’w gael, ffoniwch y ganolfan trefnu brechlynnau a byddwn yn trefnu apwyntiad ???? https://t.co/R0YIeq7mMx
????03000 840004 pic.twitter.com/1TR2Q8FpEt
— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) February 2, 2021
Os oes gennych symptomau…
Os oes gennych symptomau’r coronafeirws, sicrhewch eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Efallai mai hon fydd eich swydd bwysicaf erioed.
Darllenwch ragor ar wefan Llywodraeth Cymru.
Persistent cough, high temperature or loss of taste or smell? You may have #coronavirus.
Please self-isolate immediately and book a test if you have any symptoms.https://t.co/WYmmH7RQJr#KeepWalessafe #TestTraceProtect pic.twitter.com/a3LKlRilOr
— Welsh Government Health and Social Care (@WGHealthandCare) January 29, 2021
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Y diweddaraf ar frechlynnau (gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol