Gofynnir i bobl Gogledd Cymru gadw pellter cymdeithasol, cael brechiad, a hunanynysu a chael prawf os ydyn nhw’n dangos symptomau.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru neges ddoe, wrth i rannau o Ogledd Cymru ddangos cynnydd sylweddol mewn achosion (mae gan Wrecsam 54.4 o achosion i bob 100k o’r boblogaeth).
Gallwch archebu apwyntiad ar-lein ar gyfer eich dos cyntaf a’r ail ddos…does dim rhaid aros am wahoddiad.
Bydd brechlyn yn rhoi’r amddiffyniad gorau i chi, a dyma’r siawns orau o ddychwelyd i fywyd arferol yn y pen draw.
Felly os nad ydych chi wedi cael y ddau ddos eto, peidiwch ag oedi…archebwch ar-lein.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am gynnig y brechlyn yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd y GIG.
Helpwch i gadw ysgolion yn ddiogel
Os ydych chi’n rhiant, gallwch helpu i gadw ysgolion Wrecsam yn ddiogel ac atal tarfu pellach drwy gadw at y canllawiau…
- Gwnewch yn siŵr fod gan eich plentyn fasg os yw angen un.
- Peidiwch ag ymgasglu wrth gatiau’r ysgol.
- Osgowch rannu lifft gyda phobl o aelwydydd eraill lle bo modd.
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os oes ganddyn nhw symptomau (dylech ynysu a chael prawf).
- Peidiwch â’u hanfon i’r ysgol os oes gan unrhyw un arall yn y cartref symptomau (dylech ynysu a chael prawf).
Gall gwneud camgymeriad gael effaith wedyn ar blant eraill, teuluoedd a staff, gyda swigod cyfan yn gorfod ynysu.
Gwisgwch fasg wyneb yn yr orsaf fysiau
Os ydych chi’n defnyddio cludiant cyhoeddus, cofiwch wisgo masg wyneb dan do yng ngorsaf fysiau Wrecsam.
Ydych chi’n gweithio yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam?
Bydd uned brofi symudol yn agor ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam i’w gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio yno gael prawf Covid-19.
Mae’r cyfleuster mynediad rhwydd yn cynnig profion llif unffordd cyflym ym Mharc Busnes Rhydfudr bob dydd Llun.
Symptomau? Trefnu prawf
Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws – neu os ydych wedi eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan ynysu ac yn cael prawf.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Symptomau ychwanegol
Gallwch gael prawf am ddim erbyn hyn os oes gennych ystod ehangach o symptomau.
Yn ogystal â’r tri arwydd gwreiddiol – gwres, peswch newydd parhaus neu golli/newid yn y gallu i flasu ac arogli – gall pobl gael prawf os oes ganddyn nhw symptomau eraill hefyd.
Sef:
- Symptomau fel ffliw nad ydyn nhw’n cael eu hachosi gan gyflyrau eraill (fel clefyd y gwair), gan gynnwys poenau yn y cyhyrau, blinder mawr, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddf ac/neu grygni, byr o wynt neu frest dynn.
- Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt gydag achos o Covid-19.
- Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol.
Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol>/a>.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru).
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd.