Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 — os na fyddwn ar ein gwyliadwraeth rŵan, bydd ein holl waith da’n cael ei golli
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 — os na fyddwn ar ein gwyliadwraeth rŵan, bydd ein holl waith da’n cael ei golli
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 — os na fyddwn ar ein gwyliadwraeth rŵan, bydd ein holl waith da’n cael ei golli

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2, 2021 3:50 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid-19
RHANNU

Mae pethau’n gwella (yn araf)…ond peidiwch â chael eich temtio i dorri’r rheolau

Yn Wrecsam y mae’r gyfradd coronafeirws uchaf yng Nghymru o hyd (438 am bob 100k o’r boblogaeth ar sail saith diwrnod treigl)… ond mae pethau’n gwella.

Cynnwys
  • Mae pethau’n gwella (yn araf)…ond peidiwch â chael eich temtio i dorri’r rheolau
  • Canolfan frechu leol yn agor yn Wrecsam
  • Cysylltir â chi pan ddaw eich tro
      • Cewch frechlyn am ddim… peidiwch â chael eich twyllo
  • Ar ôl ichi gael eich pigiad, daliwch ati i gadw at y rheolau
  • Lefelau Coronafeirws yn lle rydych chi’n byw
  • Ysgolion a dysgu o bell
  • Dyma beth sy’n rhaid inni i gyd ei wneud
  • Gwasanaethau bws – depo Arriva yn Wrecsam yn ailagor
  • Os oes gennych symptomau…
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Rydym wedi bod mewn cyfnod clo yng Nghymru ers dros fis bellach, ac mae nifer yr achosion yn Wrecsam yn gostwng yn raddol. Mae hynny’n newyddion da.

Ond mae llawer o bobl yn dal i fynd yn sâl, ac mae rhai pobl yn marw, felly mae’n rhaid inni i gyd gadw at y rheolau a bod yn hynod ofalus.

Oherwydd os bydd nifer yr achosion yn dechrau cynyddu eto, bydd ein holl waith da’n cael ei golli, a bydd yn rhaid inni fynd drwy hyn i gyd eto.

Nid oes ar neb eisiau hynny.

Canolfan frechu leol yn agor yn Wrecsam

Agorodd Canolfan Frechu Leol gyntaf gogledd Cymru yn Wrecsam yr wythnos hon.

Mae’r Cyngor wedi bod yn pwyso am gael Canolfan Frechu Leol yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn helpu i gyflwyno’r rhaglen frechu leol.

Rheolir y ganolfan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno’r brechlyn – ynghyd â meddygfeydd meddygon teulu a’r Ganolfan Frechu Torfol yng Nglannau Dyfrdwy.

Darllenwch y stori’n llawn…

Y Cyngor yn dweud bod y ganolfan frechu yn hwb pwysig i Wrecsam

Mae staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn dal i gael eu brechu. Mae dros 72% o breswylwyr a 48% o staff wedi’u brechu hyd yn hyn.

Fel yr adroddwyd eisoes, mae pob meddygfa meddygon teulu wedi cytuno i ddarparu brechlynnau, ac mae rhai wedi derbyn cyflenwadau ohonynt. Ehangir ar hyn yn yr wythnosau i ddod.

Gallwch ddarllen mwy am y gwaith o gyflwyno’r brechlyn ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Cysylltir â chi pan ddaw eich tro

Pan ddaw eich tro chi i gael cynnig y brechlyn, fe gysylltir â chi er mwyn trefnu apwyntiad.

Peidiwch â mynd i’r Ganolfan Frechu Leol heb wahoddiad, a pheidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu ysbyty i holi am apwyntiad.

Pan ddaw eich tro chi, bydd y GIG neu eich meddyg teulu’n cysylltu â chi ar y ffôn neu drwy lythyr.

Cofiwch fod Llywodraeth Cymru’n anelu i frechu:

• Preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol, pobl dros 70, a phobl y mae ganddynt gyflyrau iechyd isorweddol, erbyn canol mis Chwefror.
• Pobl dros 50 oed erbyn y gwanwyn.
• Pob oedolyn arall erbyn yr hydref.

Cewch frechlyn am ddim… peidiwch â chael eich twyllo

Yn anffodus, mae yna bobl a allai geisio’ch twyllo gydag e-byst ffug ynghylch y brechlyn.

Cofiwch, ni fydd gofyn ichi gofrestru na thalu i gael eich brechu.

Pan ddaw eich tro chi, bydd y GIG neu eich meddyg teulu’n cysylltu â chi.

Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal on Twitter: “Peswch parhaus, tymheredd uchel neu wedi colli’r gallu i flasu neu arogli? Efallai bod gennych y #coronafeirws. Dylech hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf os oes gennych unrhyw symptomau. 

⚠️ Help us stop the spread of Coronavirus vaccine scams❗

Remember, you will never be asked to ‘sign up’ or pay to get vaccinated.

When it’s your turn to get protected, you will be contacted by your health board or GP. https://t.co/wgYW9r8LVO

— Public Health Wales (@PublicHealthW) January 29, 2021

Ar ôl ichi gael eich pigiad, daliwch ati i gadw at y rheolau

Ar ôl ichi gael eich brechu, bydd yn rhaid ichi fod yn ofalus iawn, a rhaid ichi gadw at holl gyfyngiadau a chanllawiau Cymru o hyd.

Ni fyddwch yn cael eich diogelu ar unwaith (mae’r brechlyn yn cymryd amser i weithio) ac efallai y byddai’n dal yn bosibl ichi ddal neu ledaenu’r feirws.

Daliwch ati i fod yn hynod ofalus, a chadwch at bob rheol, hyd yn oed ar ôl ichi gael eich brechu.

Lefelau Coronafeirws yn lle rydych chi’n byw

Mae’r niferoedd yn gwella yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd yn Wrecsam, ond mae’r ffigurau’n dal yn uchel.

Yr ardaloedd gyda mwy na 700 o achosion am bob 100k o’r boblogaeth yw:
• Hermitage a Whitegate, 811 achos
• Parc Caia, 714 achos

Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi mewn mwy o fanylder, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

Yn Wrecsam, y brif ffordd y mae’r feirws yn dal i wneud ei ffordd i gartrefi pobl, ac yn lledaenu, yw rhwng aelodau o deuluoedd.

Ysgolion a dysgu o bell

Fel yng ngweddill Cymru, mae ysgolion Wrecsam yn parhau i ddarparu dysgu o bell ar gyfer disgyblion.

Fel Cyngor, hoffem ddiolch yn fawr iawn i rieni a gofalwyr.

Gwyddom ei bod yn anodd iawn jyglo dyletswyddau gwaith a chartref gyda dysgu plant gartref. Felly diolch ichi am bopeth yr ydych yn ei wneud.

Dysgu o gartref. Diolch yn fawr gennym ni

Dyma beth sy’n rhaid inni i gyd ei wneud

Ymddwyn fel pe baech chi – a phawb yr ydych yn dod ar eu traws – wedi’u heintio â Covid-19.

Daliwch ati i gadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym yng Nghymru, a:

• Pheidiwch â chymysgu â phobl o aelwydydd eraill (y tu mewn na’r tu allan).
• Peidiwch â theithio oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol, er enghraifft i fynd i’r gwaith, am resymau iechyd, neu i gyflawni dyletswyddau gofal.
Lefel rhybudd 4: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

Gwasanaethau bws – depo Arriva yn Wrecsam yn ailagor

Bydd depo Arriva yn Wrecsam yn ailagor ddydd Sul (Ionawr 31), wrth i yrwyr ddechrau dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod atal byr gwirfoddol yno.

Bydd gwasanaethau ychwanegol ar waith eto, gyda siwrneiau ychwanegol wedi’u hychwanegu at rai llwybrau.

Am ragor o wybodaeth, ac i gynllunio’ch taith, ewch i: https://www.arrivabus.co.uk/help/coronavirus/coronavirus-timetable-information

Cofiwch na ddylech deithio oni bai bod eich siwrnai’n un hanfodol.

#Wrexham depot re-opens on 31 Jan, additional services will be put back in place running to special timetables & extra journeys added to some services. Details https://t.co/GND0Js7YGY We are committed to running vital services so essential journeys can be made at this time. pic.twitter.com/uj71UA1S0L

— Arriva Buses Wales (@arrivabuswales) January 26, 2021

Os oes gennych symptomau…

Os oes gennych symptomau coronafeirws, sicrhewch eich bod yn hunanynysu ac yn cael eich profi.

Gallai hynny fod y peth pwysicaf a wnewch chi byth.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal on Twitter: “Peswch parhaus, tymheredd uchel neu wedi colli’r gallu i flasu neu arogli? Efallai bod gennych y #coronafeirws. Dylech hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf os oes gennych unrhyw symptomau.

Persistent cough, high temperature or loss of taste or smell? You may have #coronavirus.

Please self-isolate immediately and book a test if you have any symptoms.https://t.co/WYmmH7RQJr#KeepWalessafe #TestTraceProtect pic.twitter.com/a3LKlRilOr

— Welsh Government Health and Social Care (@WGHealthandCare) January 29, 2021

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Y diweddaraf ar frechlynnau (gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol
Rhannu
Erthygl flaenorol Reminder on criteria regarding schools and children of key workers Nodyn atgoffa ar feini prawf yn ymwneud ag ysgolion a phlant gweithwyr allweddol
Erthygl nesaf Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19 Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English