I fynd i glwb nos neu ddigwyddiad mawr yn Wrecsam a phob cwr o Gymru mae’n rhaid ichi bellach fedru dangos eich statws brechu neu ganlyniad negyddol diweddar wedi prawf llif unffordd.
Gallwch brofi hynny ar unwaith os oes gennych Bas Covid y GIG a gallwch lawrlwytho un yma.
TREFNWCH EICH PÀS COVID
Cofiwch drefnu eich Pàs Covid cyn i chi fynd allan i dre’. Mae’n sydyn ac yn hawdd. Gwyliwch y fideo hwn ar gyfer canllaw cam wrth gam sydyn…????????????
O heddiw, i fynd i glybiau nos a digwyddiadau bydd angen i chi:
✅ dangos eich statws brechu; neu
✅ prawf llif unffordd negativeGallwch ddefnyddio Pàs Covid y GIG i ddangos y rhain – dyma sut i gael eich Pàs ????
— Llywodraeth Cymru #DiogeluCymru (@LlywodraethCym) October 11, 2021
Plis gwnewch yn siwr eich bod wedi ei threfnu cyn i chi mynd allan ac ysturiwch ei lawrlwytho a’u argraffu rhag ofn i fatri eich ffon mynd yn wag neu fod yr app ddim yn gweithio ar y pryd.
Brechiadau Covid i rai 12 i 15 oed
Yr wythnos ddiwethaf dechreuodd y bwrdd iechyd lleol frechu pobl 12 i 15 oed.
Anfonir gwahoddiadau mewn llythyr.
Bydd angen i rieni a gofalwyr roi caniatâd a bydd y brechiadau’n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu lleol (ni fydd pobl yn y grŵp oedran hwn yn gallu cerdded i mewn i glinigau).
Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion
Drwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru fe allwch chi helpu i gadw Covid draw o’r ystafell ddosbarth yr hydref hwn…
- Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
- Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
- Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
- Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.