Mae pethau’n gwella Mae’r cyfnod clo yn cael effaith ac mae achosion yn gostwng yn gyflym.
Ond (ac mae’n “ond” enfawr)…
Mae Wrecsam yn parhau â’r ail lefel uchaf o’r coronafeirws yng Nghymru (122 fesul 100,000 o’r boblogaeth ar sail treigl saith diwrnod).
Yn syml, os byddwn yn llacio, byddwn yn dychwelyd i’r dechrau.
Mae’r cyfnod clo yn parhau a bydd ond yn cael ei lacio’n raddol, ac mae’n hanfodol ein bod i gyd yn glynu at y rheolau.
Newidiadau i’r cyfnod clo
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw ei bod yn bosibl y bydd rhai cyfyngiadau yn cael eu codi ym mis Mawrth os bydd achosion yn parhau i ostwng ac y bydd mwy o blant, gan gynnwys rhai disgyblion uwchradd yn gallu dychwelyd i’r ysgolion o 15 Mawrth.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi o yfory (20 Chwefror), bydd hyd at bedwar o bobl o ddau aelwyd gwahanol yn cael ymarfer gyda’i gilydd yn yr awyr agored.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gallwch yrru i rhywle ar gyfer ymarfer. Dylid parhau i ddechrau a gorffen ymarfer o’r cartref.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn parhau mewn cyfnod clo.
Felly, daliwch i gadw at y rheolau a helpwch i wneud yn siŵr bod lefelau Covid-19 yn parhau i ostwng yn Wrecsam.
Rydym ar y blaen o ran pwyntiau, ond nid yw’r frwydr drosodd eto.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
Mae’r rhaglen frechu yn parhau i gael ei chyflwyno fesul cam yn Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru.
Mae gwaith wedi dechrau o ddifrif ar weinyddu’r ail ddos (ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol er enghraifft) yn ogystal â chynnig dos cyntaf i’r sawl rhwng 65-69 oed.
70 oed neu hŷn, neu’n gwarchod eich hun?
Mae’r bwrdd iechyd lleol a’i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Os ydych dros 70 oed, yn hynod fregus yn glinigol neu’n weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol ar y rheng flaen a heb dderbyn apwyntiad eto, yna dylech ffonio 03000 840004 nawr.
Os ydych rhwng 65 a 69 oed, mae eich brechlyn ar y ffordd, ond dylech aros iddynt gysylltu â chi.
Apwyntiadau brechu – gair i gall
Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i ddarparu’r rhaglen yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch ei wneud i helpu.
• Peidiwch â ffonio’r GIG na’r meddyg teulu i ofyn am apwyntiad ar gyfer y brechlyn (oni bai eich bod wedi cael cyngor i wneud hynny). Byddan nhw’n cysylltu pan ddaw eich tro chi.
• Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffonau os nad ydym yn adnabod y rhif. Fodd bynnag, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y GIG yn ceisio eich ffonio os bydd yna apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
• Os byddwch yn derbyn gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond ddim eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
• Pan fyddwch yn mynd i apwyntiad, cadwch bellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â masg wyneb. Dylech hefyd ddod â llun adnabod.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Mae’r brechlyn am ddim
Mae’n bosibl y bydd yna bobl allan yna fydd yn ceisio eich twyllo gydag e-bost brechu ffug neu alwadau ffug.
Cofiwch…. ni fydd unrhyw un byth yn gofyn i chi ‘gofrestru’ na thalu i gael eich brechu ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrinair.
Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.
Cwestiynau am y brechlyn Ffeithiau gan yr arbenigwyr
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn Covid-19, mae’n bwysig cael y ffeithiau gan bobl sy’n gwybod am beth maent yn siarad.
A gadewch i ni fod yn onest…. mae’n bosibl nad yw’r dyn sy’n byw i lawr y ffordd yn arbenigwr … er gwaethaf yr hyn mae’n ei ddweud ar Facebook.
Dilynwch Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol a chael atebion gan bobl sy’n gwybod am beth maen nhw’n siarad.
Mae Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ateb cwestiynau cyffredin ar Twitter yr wythnos hon. Cymerwch olwg…
“Ar ba bwynt gallwn ddisgwyl i'r brechlyn gael effaith ar niferoedd ysbytai?”
Dr Giri Shankar sy'n esbonio 👇 pic.twitter.com/kSBFrwavku
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) February 18, 2021
Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd yn Wrecsam yn parhau i wella, er bod dwy ardal wedi gwaethygu.
Y ddwy ardal ble mae’r achosion wedi cynyddu yw:
• Gogledd y Dref, Prifysgol a Rhosddu – 236 fesul 100,000 (wedi cynyddu’n sylweddol o 101 ar 12 Chwefror)
• Acton a Maesydre – 178 fesul 100,000 (o’i gymharu â 79 ar 12 Chwefror)
Dwy ardal yn unig sydd â mwy na 200 o achosion fesul 100,000:
• Gogledd y Dref, Prifysgol a Rhosddu – 236 fesul 100,000
• Coedpoeth a Brymbo – 208 fesul 100,000
Os ydych yn dymuno gwirio’r ffigyrau ble rydych chi’n byw, gallwch weld tabl data Iechyd Cyhoeddus Cymru a chlicio ar y tab ‘MSOA’.
Mae’r feirws yn parhau i ledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau’r teulu, gyda’r amrywiolyn ‘Caint’ yn cyfrif am bob achos.
Mwy o bobl yn gymwys ar gyfer £500 o dâl cefnogaeth
Yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd mwy o bobl nawr yn gymwys i ymgeisio am y Taliad Cymorth Hunan-ynysu £500.
Bydd y cynllun, sydd wedi’i ymestyn tan fis Mehefin nawr yn agored ar gyfer ceisiadau gan bobl ag incwm personol llai na £500 yr wythnos a’r sawl sy’n derbyn Tâl Salwch Statudol Sylfaenol y gofynnwyd iddynt hunan-ynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, Ap Covid-19 y GIG neu gan leoliad addysg eu plentyn (e.e. ysgol).
Mae’r newidiadau yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu derbyn cefnogaeth os gofynnir iddynt hunan-ynysu ac y byddent yn colli incwm o ganlyniad i hynny.
I wybod mwy – gan gynnwys sut i ymgeisio – ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Disgyblion cyfnod sylfaen i ddychwelyd gyda gofal
Fel y dywedwyd yr wythnos ddiwethaf, mae cynlluniau ar y gweill wrth i Wrecsam ystyried trefniadau i ailagor ysgolion ar gyfer dysgwyr cyfnod sylfaen (plant 3-7 oed).
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gall ysgolion ddechrau ailagor i blant bach o’r dydd Llun yma, 22 Chwefror.
Mae’r cyngor a phenaethiaid yn ystyried cynlluniau yn ofalus, tra’n parhau i fonitro’r sefyllfa leol.
Yn sgil y camau gofalus hyn, ni fydd plant yn dychwelyd i ysgolion yn Wrecsam tan ddydd Gwener nesaf, 26 Chwefror ar y cynharaf – yn dibynnu ar lefelau coronafeirws ar ôl hanner tymor.
Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yr wythnos nesaf i gadarnhau trefniadau.
Fel y soniwyd yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn edrych ar pa un a fydd holl blant ysgolion cynradd a rhai disgyblion uwchradd yn cael dechrau dychwelyd i’r ysgol o 15 Mawrth.
Disgwylir mwy o wybodaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.
Busnesau Wrecsam yn chwarae eu rhan
Mae’r Heddlu a Swyddogion Safonau Masnach yn Wrecsam wedi bod yn gweithio’n agos i sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau Covid-19 ynglŷn ag agor.
Yn gyffredinol, roeddent yn dweud bod y mwyafrif o safleoedd yr ymwelwyd â nhw yn cadw at y rheolau, sy’n newyddion da.
Mae’r ychydig sydd heb fod yn cadw at y rheolau wedi derbyn ymweliad – ble bo’r angen – cymerwyd camau, gan gynnwys cyflwyno dirwyon.
Cadwch at y cyfyngiadau
Dylech ymddwyn fel bod gennych chi – a phawb rydych yn eu cyfarfod – Covid-19.
Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru:
• Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – er y bydd hyd at bedwar o bobl o ddau aelwyd gwahanol yn cael ymarfer gyda’i gilydd yn yr awyr agored o yfory ymlaen.
• Peidiwch â theithio heblaw at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin
Os bydd gennych symptomau…
Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddio
Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol