Gan fod y cyfnod clo byr bellach wedi dod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ystyried beth ddylem ni ei wneud… nid beth y cawn ni ei wneud.
Mewn geiriau eraill, er bod rhywbeth yn cael ei ganiatáu o fewn y rheolau, nid yw hynny’n golygu y dylem ni wneud hynny … yn arbennig os nad oes wirioneddol angen i ni.
Felly cyn i chi neidio i’r car a theithio i rywle, neu drefnu i gyfarfod â rhywun, gofynnwch i’ch hunan a ddylech chi fod yn gwneud hynny… nid a gewch chi wneud hynny.
Mae hyn i gyd yn ymwneud â chyfyngu faint o bobl rydym yn dod i gysylltiad â hwy, a pha mor aml. Os ydym yn gwneud hynny – ac yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol– bydd gennym well siawns o osgoi’r angen am gyfnod clo arall.
A bydd gennym well siawns o allu gweld ein hanwyliaid dros y Nadolig.
Gellir dod o hyd i ganllawiau llawn ar y rheolau hyn ar wefan Llywodraeth Cymru… ond ceisiwch ystyried beth ddylech chi ei wneud.
https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
Y Coronafeirws yn eich ardal chi
Er yr ymddengys bod y feirws wedi lefelu yn Wrecsam dros y dyddiau diwethaf, mae’r niferoedd yn parhau i fod yn uwch yn Wrecsam na’r siroedd eraill yng Ngogledd Cymru.
Ac mae ‘ardaloedd problemus’ yn parhau i fodoli o fewn y sir…. sef cymunedau lle ymddengys bod y feirws yn arbennig o uchel.
Gallwch weld lefelau’r coronafeirws yn eich ardal ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru (cliciwch ar y tab ‘Cases by MSOA’ a dewiswch Wrecsam yn y ddewislen ‘local authority’ ar y dde).
Beth bynnag yw’r ffigurau yn eich ardal chi, cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol… a helpwch i gadw eich cymuned yn ddiogel. Cofiwch, efallai bod y niferoedd yn eich cymuned chi yn isel ar hyn o bryd, ond nid yw hynny’n golygu na allant gynyddu’n gyflym, fel ddigwyddodd yn yr hydref.
Golau ym mhen draw’r twnnel?
Mae’r newyddion fod y DU yn dechrau ymylu at frechlyn wedi rhoi’r hwb yr oedd arnom ei angen i ni, ac mae’n dechrau teimlo fel bod golau ym mhen draw’r twnnel.
Rydym ni gyd yn gwybod nad yw’r frwydr yn erbyn Covid-19 wedi dod i ben o bell ffordd.
Ond drwy fod mor ofalus â phosibl, ac ymdrechu i gadw niferoedd y feirws yn isel ym mhob rhan o Wrecsam a helpu i osgoi’r angen am gyfnod clo arall, byddwn mewn sefyllfa dda pan fydd y brechlyn ar gael.
Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am y brechlyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
https://llyw.cymru/diweddariad-brechlyn-covid-19
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Beth sy’n agor yn Wrecsam?
Orielau Tŷ Pawb
Bydd orielau celf Tŷ Pawb yn dechrau ail-agor ddydd Mercher, 18 Tachwedd.
Dyma’r tro cyntaf iddynt agor ers dechrau’r pandemig.
Bydd yn rhaid i ymwelwyr wisgo mygydau wyneb (yn yr un modd â siopau a mannau cyhoeddus dan do eraill) a chadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol drwy’r amser.
Caeau Pêl-droed
Yn unol â’r dychweliad i bêl-droed llawr gwlad, bydd ein caeau pêl droed yn ail-agor yn raddol o ddydd Gwener, 21 Tachwedd.
Gwasanaethau a chyfleusterau eraill
Darllenwch nodyn briffio’r wythnos diwethaf i weld y gwasanaethau a chyfleusterau lleol eraill sydd wedi ail-agor ers y cyfnod clo byr diweddar.
Gwybodaeth bwysig arall
Defnyddio’r bws ysgol cywir
Os yw eich plentyn yn defnyddio cludiant i’r ysgol, mae’n hollbwysig eu bod yn defnyddio’r bws cywir.
At ddibenion tracio ac olrhain, mae’n rhaid i ni sicrhau fod disgyblion yn teithio ar eu bws dynodedig… rhag ofn y bydd arnom angen cysylltu â nhw i hunan-ynysu.
Felly, sicrhewch fod eich plentyn yn teithio ar y llwybr bws y dynodwyd ar eu cyfer os gwelwch yn dda, mae’r manylion hyn wedi’u nodi ar eu cerdyn bws.
Dylai plant hefyd gario eu tocyn bws rhag ofn y bydd y gyrrwr yn dymuno ei weld.
Diwali hapus a diogel
Mae’n ddiwrnod Diwali yfory (dydd Sadwrn, 14 Tachwedd) – yr Ŵyl Oleuadau Hindŵaidd.
Er y bydd dathliadau’n wahanol iawn eleni yn sgil y coronafeirws a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, hoffem ddymuno Diwalu hapus a diogel i bawb yn ein cymuned Hindŵaidd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG