Gyda hanner tymor ar y gweill, ydych chi’n pendroni am ffyrdd o ddiddanu’r plant?
Mae gennym newyddion da i chi!
Cynhelir y rhaglen nofio am ddim ar gyfer plant 16 oed ac iau ym mhyllau nofio’r Byd Dŵr, y Waun a Gwyn Evans drwy gydol gwyliau’r hanner tymor.
Caiff ei gynnal mewn partneriaeth â ni, Freedom Leisure a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gynllun nofio am ddim sy’n caniatáu mynediad i byllau nofio lleol yn ystod penwythnosau drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod gwyliau ysgol.
Mae’n gymwys ar gyfer plant 16 oed ac iau, ac mae’r fenter yn galluogi ymwelwyr i gael sesiynau sblasio am ddim ar amseroedd penodol yn eu pwll nofio lleol (gall yr amseroedd amrywio ymhob canolfan).
Nid oes unrhyw ffi i fod yn rhan o’r cynllun – mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Darllenwch y daflen wybodaeth am ragor o wybodaeth a’r rhestr lawn o weithgareddau ac ar gaeledd.
Os oes gennych blant, dylech dderbyn y daflen wybodaeth gan yr ysgol yn fuan – a bydd hefyd yn cynnwys manylion o ran sut i dderbyn cerdyn am ddim er mwyn cael mynediad at y sesiynau nofio am ddim, felly cadwch lygad!
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Gall gadw plant a phobl ifanc yn brysur dros y gwyliau fod yn anodd, ond mae’r cynllun nofio am ddim yn sicrhau bod rhywbeth ymlaen ar eu cyfer nhw bob amser – un ai er mwyn cadw’n heini neu er mwyn eu cadw’n brysur.
“Mae rhai o’r sesiynau hefyd yn caniatáu nofio am ddim ar gyfer y teulu cyfan (hyd at 4 o bobl), felly mae’n werth edrych beth sy’n digwydd.
“A chofiwch, unwaith i’r gwyliau ddod i ben, bydd y cynllun yn parhau i redeg bob penwythnos drwy gydol y flwyddyn – felly mae digon o gyfleoedd i nofio yn eich pwll lleol!”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR