Mae’n amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym ni wrthi’n recriwtio ar gyfer naw swydd barhaol newydd o fewn y tîm.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio ar draws y chwe ardal awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, ac mae’n ymestyn i ddarparu amrediad ehangach o wasanaethau arbenigol i fabwysiadwyr a rhai o blant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn y rhanbarth.
Dyma rywfaint o wybodaeth am ddwy o’r swyddi newydd:
1 x Arweinydd Gwasanaeth
Bydd yr arweinydd gwasanaeth yn gyfrifol am dîm o 32 o aelodau staff, felly mae rheolaeth strategol a sgiliau arwain gwych yn hanfodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am waith rheoli, cynllunio a pherfformiad strategol a gweithredol cyffredinol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.
Os yw hon yn swnio’n swydd ddelfrydol i chi, ewch i gael rhagor o wybodaeth yma.
2 x Rheolwr Tîm
Oes gennych chi sgiliau arwain, datblygu a hyfforddi ardderchog?
Fel rheolwr tîm, bydd disgwyl i chi sicrhau bod diogelu wedi’i sefydlu’n gadarn o fewn eich tîm.
Bydd gennych chi brofiad fel arweinydd tîm mabwysiadu neu brofiad o fod yn uwch reolwr, yn ogystal â phrofiad sylweddol ym maes mabwysiadu.
Ydi hyn yn swnio’n debyg i chi? Darllenwch fwy yma.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, aelod arweiniol gwasanaethau plant, “Rydym yn chwilio am arweinwyr talentog i sicrhau bod ein gwasanaethau mabwysiadu ni yma yng Ngogledd Cymru yn cyrraedd y safon uchaf. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth rhanbarthol sy’n ymgymryd â’r gwaith o recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr a dod o hyd i deuluoedd ar gyfer chwe awdurdod Gogledd Cymru. Mae’r swyddi hyn yn gyfle cyffrous i arweinwyr proffesiynol a phrofiadol ym maes mabwysiadu, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i wneud cais.
Dyma rai manteision i weithwyr:
- Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol
- Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg
- Pensiwn Llywodraeth Leol
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Gostyngiadau a chynigion staff
- Talebau gofal plant
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cynllun Rhannu Ceir
- Mynediad at Undeb Credyd
Cymrwch olwg ar bob un o’r naw o swyddi newydd yma.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN