Dim ond wythnos ar ôl diwrnod canlyniadau TGAU sydd gan rieni i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) fod eu plentyn 16 oed yn parhau â’u haddysg neu hyfforddiant, er mwyn parhau i gael Budd-dal Plant.
Bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn darganfod eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon a bydd llawer yn ystyried eu dyfodol ac a ddylid aros ymlaen mewn addysg. Mae taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar 31 Awst ar ôl i blentyn droi’n 16 oed, ond gall rhieni ymestyn eu hawliad os yw eu plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy.
Mae’n hawdd i rieni ddiweddaru eu cofnod Budd-dal Plant. Gallant ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar GOV.UK neu ap CThEF i roi gwybod i CThEF am gynlluniau eu plentyn.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd CThEF at rieni am ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant. Roedd y llythyr yn cynnwys cod QR sydd, o’i sganio, yn eu cyfarwyddo i GOV.UK i ddiweddaru eu hawliad ar-lein. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cymhwyso i’w hawliad Budd-dal Plant ar unwaith.
Bydd Budd-dal Plant yn parhau i gael ei dalu ar gyfer plant sy’n astudio’n llawn amser a all gynnwys:
- Lefelau A neu debyg
- Y Fagloriaeth Ryngwladol
- addysg yn y cartref – os y’i dechreuwyd cyn i’w plentyn droi’n 16 oed, neu ar ôl iddo droi’n 16 oed os oes ganddo anghenion arbennig
- Lefelau T
- NVQs, hyd at lefel 3
- hyfforddeiaethau yn Lloegr
Bydd Budd-dal Plant hefyd yn parhau i blant sy’n astudio ar un o’r cyrsiau hyfforddi cymeradwy hyn:
- yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Jobs Growth Wales+
- yng Ngogledd Iwerddon: PEACE IV Children and Young People 2.1, Training for Success neu Skills for Life and Work
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
“Gall Budd-dal Plant roi cymorth ariannol i deuluoedd, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan os yw’ch plentyn yn ei arddegau yn dal yn gymwys. Gallwch ymestyn eich hawliad yn gyflym ac yn hawdd ar-lein neu drwy ap CThEF, chwiliwch am ‘Child Benefit when your child turns 16’ ar GOV.UK.”
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar rieni i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF. Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol neu god post arnynt a 2 fath o Ddynodydd Defnyddiwr i gofrestru ar GOV.UK.
Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael cymorth gyda chostau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg