Gwyddom eich bod i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld llyfrgelloedd yn ailagor ac er mwyn gwneud hynny’n ddiogel rydym wedi trefnu system “archebu a chasglu” yn Llyfgrell Wrecsam.
Caiff y gwasanaeth ei brofi o heddiw ymlaen yn Llyfrgell Wrecsam, gyda’r bwriad o gyflwyno’r gwasanaeth yn raddol ledled y sir.
Mae’r stoc sydd ar gael yn gyfyngedig ar hyn o bryd wrth i ni ddisgwyl am gyflenwadau o lyfrau newydd. Bydd y staff yn gwneud eu gorau i gael y llyfrau sydd eu heisiau arnoch mor gyflym ag y gallant.
Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut i ailagor llyfrgelloedd. Gallai’r canllawiau hynny newid wrth i ni symud ymlaen.
Sylwch y bydd pob llyfr a ddychwelir i’r llyfrgell yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr.
I archebu llyfr i’w gasglu ewch ar-lein ar
https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy
Pan fydd eich llyfrau yn barod i’w casglu bydd y staff yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad casglu. Gallwch ddychwelyd llyfrau ar yr un pryd â’ch apwyntiad i gasglu llyfrau. Os ydych ond eisiau dychwelyd llyfrau, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r llyfrgell trwy e-bost library@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio 01978 292090 i drefnu apwyntiad.
Bydd yr holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg ac unrhyw rai y byddwch yn eu benthyca trwy’r Gwasanaeth Archebu a Chasglu yn cael eu hadnewyddu fel mater o drefn felly ni fydd angen i chi boeni am ddychwelyd eich llyfrau ar amser ac ni fyddwch yn cael unrhyw ddirwyon.
Bydd ein Gwasanaeth Cyswllt Cartref yn dod â llyfrau i gwsmeriaid yn ôl yr arfer o 1 Gorffennaf ymlaen a byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi eto!
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:
“Mae staff llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed er mwyn ailddechrau gwasanaethau yn ddiogel yn llyfrgell Wrecsam a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgell yn gallu dechrau cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i drigolion unwaith eto.
“Byddwch yn amyneddgar wrth i ni gyd barhau i roi blaenoriaeth i ddiogelwch staff a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn o ailagor gwasanaethau yn raddol.”
Gwiriwch y wasg leol, Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor cyn ymweld â ni.
Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, dilynwch y rheolau isod.
- Peidiwch â mynd i’r llyfrgell os oes gennych chi neu rywun sy’n byw ar yr un aelwyd â chi symptomau Covid-19, neu os ydych yn amau bod gennych symptomau, neu os ydych yn ‘gwarchod’ eich hun oherwydd cyflwr iechyd blaenorol.
- Peidiwch â dychwelyd eich eitemau llyfrgell mewn bag neu gynhwysydd.
- Rhowch yr eitemau yr ydych yn eu dychwelyd i’r llyfrgell yn y cynhwysydd dychwelyd.
- Dychwelwch eitemau i’r llyfrgell wrth gasglu eich archeb yn unig.
- Sylwch nad yw gwasanaethau a chyfleusterau eraill y llyfrgell ar gael ar hyn o bryd.
- Ni allwch archebu cryno ddisgiau na DVDau trwy ein ‘Gwasanaeth Archebu a Chasglu’.
- Mae’n rhaid i chi ddod â’ch cerdyn aelodaeth gyda chi wrth gasglu eitemau a archebwyd.
- Casglwch eich archeb a gadewch y llyfrgell yn syth.
- Mae’n rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- Byddwch yn amyneddgar os oes ciw.
- Cofiwch gadw 2m rhyngoch chi a phobl eraill
- E-bostiwch neu ffoniwch i drefnu apwyntiad i ddychwelyd eich eitemau i’r llyfrgell
Diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni ail-lunio’ch gwasanaeth llyfrgell lleol.
Gyda’ch cymorth chi gallwn weithio’n ddiogel er lles pawb yn Wrecsam.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN