Mae gan arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu gynlluniau ac yswiriant digonol. Bydd y trefnwyr wedi gweithredu ar yr holl fesurau diogelwch sydd eu hangen. Mae sawl arddangosfa dân gwyllt yn digwydd yr wythnos hon yn ardal Wrecsam ac mae’r rhai (ond nid pob un ar y rhestr isod).
- Fferm Pen-y-lan, Marchwiel, Wrecsam – Dydd Sul 9 Tachwedd, 4pm
 - AAA’s, y Waun, Y Waun – 5/11/25
 - Hotel Wrexham, Ffordd Holt – 5/11/25
 - Clwb Pêl Droed Llay Miners Welfare, The Ring, Ffordd Newydd Llai, Llai – 7/11/25.
 - Digwyddiad Tân Gwyllt Mannau Diogel, Dydd Sul, Tachwedd 16, 4pm, Cyfadeilad Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo
 
Ar hyn o bryd nid oes tanau gwyllt swyddogol nac arddangosfeydd tân gwyllt wedi’u trefnu ar dir Cyngor Wrecsam na gan y Cyngor. Gwaherddir tanio tân gwyllt mewn parciau neu fannau cyhoeddus yng Nghymru heb ganiatâd o flaen llawn ac yswiriant.
Gall digwyddiadau ac arddangosfeydd heb ganiatâd arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol, risgiau diogelwch, a llygredd sŵn. Gallant hefyd gael effaith andwyol ar anifeiliaid, pobl agored i niwed (ee, pobl â PTSD, awtistiaeth, neu sensitifrwydd clyw), a’r amgylchedd.
Os ydych chi’n tanio tân gwyllt
Ni ellir mynd â phob anifail anwes neu anifeiliaid fferm dan do ar noson tân gwyllt a gall anifeiliaid fel ceffylau ddychryn a dianc gan niweidio eu hunain yn aml. Os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt mewn ardal lle mae da byw, ystyriwch ddefnyddio tân gwyllt sŵn isel, maent yn dda iawn ac yn llai o fygythiad i anifeiliaid.
Hefyd sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cymdogion er mwyn iddynt gymryd y camau priodol.
Yn 2019 pleidleisiodd ein Cyngor llawn ar gynnig am dân gwyllt a chytuno:
- i fynnu bod pob arddangosiad tân gwyllt cyhoeddus a gynhelir ar dir y Cyngor a/neu sy’n gorfod cael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol yn cael eu hysbysebu tair wythnos o flaen llaw, er mwyn galluogi trigolion i ragddarparu ar gyfer eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn; *Erbyn hyn ni fydd unrhyw geisiadau am arddangosfeydd tân gwyllt a choelcerthi ar dir y Cyngor yn cael eu cefnogi.
 - i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn frwd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn – gan gynnwys camau y gellir eu cymryd o flaen llaw i liniaru’r risgiau;
 - i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd ganddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn a achosir trwy gynnal arddangosiadau tân gwyllt;
 - annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i werthu tân gwyllt ‘tawelach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus; ac
 - ysgrifennu at y Llywodraeth Genedlaethol yn gofyn am reolaethau llymach ar ddefnyddio tân gwyllt.
 
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llunio’r erthygl isod sy’n llawn cyngor i’ch helpu chi a’ch teulu i gadw’n ddiogel a’ch helpu i wneud penderfyniadau call ynghylch dathlu noson tân gwyllt.
ERTHYGL GWADD – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi
Rydym yn eich cynghori i fynd arddangosfa wedi ei threfnu os y gallwch yn hytrach na pheryglu eich hun drwy drefnu noson dân gwyllt adref neu gynnau coelcerth yn yr ardd gefn..
Os hoffech brynu tân gwyllt i’w tanio yn eich gardd, dewch wneud hynny. Ond mae tân gwyllt yn beryglus, a dylech feddwl yn ofalus cyn gwneud hynny. Os ydych chi’n prynu tân gwyllt i’w defnyddio gartref, cofiwch ddilyn y Cod Tân Gwyllt bob amser.   
Ni ddylech danio tân gwyllt yn y parc nac unrhyw fannau awyr agored  cyhoeddus eraill. Mae hyn wedi ei wahardd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. 
Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cynnau tân gwyllt neu goelcerth adref, cadwch at y canllawiau isod:
Diogelwch Tân Gwyllt
- Ni ddylid gwerthu tân gwyllt i unrhyw un dan 18 oed
 - Prynwch dân gwyllt gyda marc CE arnynt yn unig
 - Cadwch dân gwyllt mewn bocs metel caeedig
 - Goruchwyliwch blant a phobl ifanc bob amser
 - Peidiwch ag yfed alcohol wrth danio tân gwyllt
 - Cadwch fflamau noeth, yn cynnwys sigarets, ymhell o dân gwyllt
 - Darllewch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un o’r tân gwyllt a defnyddiwch dortsh os oes raid
 - Cyfeiriwch dân gwyllt awyrol ymhell o gyfeiriad tai a pobl ac ystyriwch goed gerllaw a chyfeiriad y gwynt
 - Cadwch fwced o ddŵr neu bibell ddŵr gerllaw
 - Taniwch nhw hyd braich gyda thapr
 - Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt – hyd yn oed os nad ydi o wedi gweithio fe all ffrwydro
 - Peidiwch â thanio tân gwyllt swnllyd ar ôl 11pm.
 
Ymhle i’w prynu
Peidiwch â cheisio arbed ceiniog neu ddwy. Prynwch dân gwyllt o siop ddibynadwy a gwnewch yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig. Prynwch dân gwyllt sydd â CE arnynt yn unig.
Weithiau bydd siopau yn agor dros dro cyn Noson Tân Gwyllt ac efallai nad y siopau hyn yw’r llefydd gorau i brynu tân gwyllt. Weithiau nid yw staff y siopau hyn yn gwybod llawer am ddefnyddio tân gwyllt ac efallai na fydd y tân gwyllt y maent yn ei werthu yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig.
Peidiwch byth â phrynu tân gwyllt os nad ydych yn siŵr, megis o gefn fan neu stondin farchnad heb drwydded.
Beth i’w brynu
Mae sawl math gwahanol o dân gwyllt. Mae gan y cyhoedd yr hawl i brynu a chynnau mwyafrif y tân gwyllt Categori 1 i 3. Mae’r rhain yn cynnwys tân gwyllt y gellir eu tanio tu mewn, yn yr ardd ac yn ystod arddangosfeydd.
Darllenwch y bocs yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod y tân gwyllt yr ydych wedi ei brynu yn addas ar gyfer eich lleoliad.
Darllenwch fwy am y gyfraith tân gwyllt yma.
Diogelwch ffyn gwreichion (sbarclers)
- Peidiwch byth â’u rhoi i blant dan 5
 - Taniwch nhw un ar tro a gwisgwch fenig
 - Peidiwch byth â gafael mewn baban neu blentyn os oes gennych sbarcler yn ei llaw
 - Peidiwch byth â’u tanio mewn arddangosfeydd cyhoeddus, maent yn rhy brysur
 - Ar ôl gorffen rhowch nhw mewn bwced o ddŵr neu dywod gan eu bod yn aros yn boeth am gyfnod hir iawn
 - Goruchwyliwch blant bob amser
 - Peidiwch â gwisgo dillad llac
 - Dangoswch wrth blant sut i’w defnyddio’n ddiogel – ymhell o’r corff a hyd braich
 - Dysgwch blant i beidio’u chwifio ger plant eraill na rhedeg gyda nhw
 
Coelcerthi
Gwell fyddai peidio â thanio coelcerth o gwbl – meddyliwch am y llygredd y maent yn ei achosi. Ond os ydych yn mynnu gwneud hynny, dilynwch y cyngor isod:
- Rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar  01931 522006.  Byddant yn gofyn am;
- Eich enw a manylion cyswllt
 - Lleoliad y goelcerth
 - O ble y gellir gweld y goelcerth
 - Amser cychwyn a gorffen
 
 - Dylai un person fod yn gyfrifol am y goelcerth a dylid goruchwylio plant bob amser
 - Dewiswch safle addas ymhell o dai, ffensys, siediau a llefydd lle mae plant yn chwarae
 - Defnyddiwch ddefnyddiau sych yn unig a peidiwch â rhoi batris, aerosolau na silindrau nwy eraill ar y tân r
 - Peidiwch byth â thasgu petrol, paraffin na gwirod methyl ar y tân – mae’n fwy diogel defnyddio tanwyr hag ofn iddo fflerio
 - Cadwch fwced o ddŵr a pibell ddŵr gerllaw rhag ofn
 - Peidiwch â gwisgo dillad llac a chlymwch wallt hir yn ôl
 - Ar ôl gorffen, taflwch ddŵr ar y tân yn hytrach na gadael iddo orffen llosgi
 - Os ydych yn colli rheolaeth ar y goelcerth, peidiwch â cheisio’i daclo’ch hun – ffoniwch 999
 
Llusernau papur
Mae llusernau papur hefyd yn cael eu galw’n Llusernau Tsieineaidd, Llusernau Dymuniad neu Lusernau Awyr. Mae llusernau traddodiadol yn adnabyddus yn nhraddodiadau Tsieina a Gwlad Tai ers canrifoedd, ond maent bellach yn cael eu defnyddio ar draws y byd i ddathlu priodasau, penblwyddi, ac amryw o ddigwyddiadau arbennig.
Mae’r llusernau hyn wedi eu gwneud o bapur ac mae ganddynt ffrâm fetel sydd y dal cell danwydd solid. Nid yw’r papur hwn bob amser wedi ei wneud o ddefnydd gwrthdan. Maent yn amrywio o ran maint ond maent gan amlaf yn mesur 90cm wrth 80cm. Mae’r llusernau hyn yn llosgi am gyfnodau gwahanol yn ôl gwahanol wneuthurwyr, gyda rhai yn llosgi am 6 munud ac eraill yn llosgi am hyd at 20 munud. Mae rhai gwneuthurwr yn honni bod y llusernau’n hedfan yn yr awyr am hyd at filltir!
Tra bod yr unigolyn yn gyfrifol am danio’r llusern, nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros y llusern wrth iddi hedfan yn yr awyr ac yna glanio. Ni ellir gwarantu ychwaith y bydd y gell danwydd wedi diffodd yn llwyr ac oeri erbyn i’r llusern lanio, ac o ganlyniad gall lanio ar arwyneb fflamadwy ac achosi tân.
Mae’r llusernau hyn wedi achosi tanau, gwastraffu amser yr Heddlu, cael eu camgymryd am fflerau, camarwain awyrennau a lladd anifeiliaid.
Bydd y risgiau hyn yn cynyddu wrth i lusernau Tsieineaidd gael eu defnyddio’n amlach, ac felly nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu cefnogi a gofynnwn yn garedig i’r cyhoedd a phobl sydd yn trefnu digwyddiadau beidio eu defnyddio.
Er bod y llusernau hyn yn boblogaidd iawn ac yn brydferth, gallant achosi difrod sylweddol.

 
 
 
 
 
 
