Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Pobl a lleY cyngor

Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 13, 2017 3:37 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
RHANNU

Yn ddiweddar penodwyd Steve Townley a Janette Williams yn Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i weithio yn ardal Wrecsam ac ar draws Gogledd Cymru. Un o brif ddyletswyddau’r swydd hon yw hyrwyddo Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog – mae’r swyddogion yn gyfrifol am ddarganfod os yw’r cyfamod cymunedol yn llwyddiannus, ac os nad yw’n llwyddiannus, datrys unrhyw broblem gysylltiedig.

Cynnwys
  • “mae’r ddau’n awyddus iawn i ddechrau ar y gwaith”
  • “awyddus i gysylltu â chymaint o unigolion â phosibl”
  • “Y Fyddin Diriogaethol, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Cyn-Filwyr a Milwyr Presennol, ac, wrth gwrs, eu teuluoedd.”
  • “addas at y diben”
  • “mae lle i wella a digon i’w gyflawni”

Bwriad y cyfamodau hyn yw sicrhau nad yw milwyr, pan maent yn gadael y lluoedd arfog, o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth milwrol. Gall problemau godi oherwydd polisïau neu weithdrefnau sydd efallai ar waith.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.

Bydd y Swyddogion yn edrych ar bolisïau a gweithdrefnau cyfredol mewn meysydd megis Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai. Byddant hefyd yn sicrhau bod anghenion cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hystyried yn llawn wrth lunio cynlluniau strategol neu wasanaeth newydd sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth.

Nid yw hynny’n golygu y bydd cyn-filwyr yn derbyn blaenoriaeth na thriniaeth ffafriol, ond byddant yn cael eu trin yr un mor deg a rhesymol ag unrhyw breswylydd arall.

Aethom ni, rhai o weithwyr https://newyddion.wrecsam.gov.uk/, draw i siarad â Janette a Steve yn fuan wedi iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau newydd, i holi am yr hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl a sut allen ni fod o gymorth i hyrwyddo’u gwaith.

“mae’r ddau’n awyddus iawn i ddechrau ar y gwaith”

Mae’n amlwg bod y ddau ohonynt yn frwdfrydig dros eu swyddi gan fod y ddau ohonynt brofiad o adael y lluoedd arfog. Bu Steve yn Fôr-Filwr Brenhinol a bu Jannette yn byw o fewn cymuned yr RAF oherwydd i’w thad wasanaethu am 25 mlynedd ac yna bu i’w gŵr wasanaethu am 15 mlynedd. Mae Steve a Jeannette yn awyddus iawn i ddechrau ar y gwaith ‘mapio’, sef lleoli yn lle yn union y mae 54,000 o gyn-filwyr yn byw yng Ngogledd Cymru

Bydd y ddau ohonynt yn edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn rhai ardaloedd ac yr arfer orau er mwyn ei rhannu ag ardaloedd eraill. Mae’n bwysig eu bod yn cadw cysondeb ar draws y rhanbarth.

“awyddus i gysylltu â chymaint o unigolion â phosibl”

Eglurodd Jannette, sy’n gwasanaethu ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych: Ar hyn o bryd, nid ydym yn sicr ym mhle yn union y mae’r mwyafrif o’r gymuned hon yn byw ac os ydynt yn cael neu wedi cael problemau â materion megis tai neu gael mynediad at ofal meddygol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn sicr ym mhle yn union y mae’r mwyafrif o’r gymuned hon yn byw ac os ydynt yn cael neu wedi cael problemau â materion megis tai neu gael mynediad at ofal meddygol. Os edrychwn ar y darlun ehangach a chynnwys teuluoedd y cyn-filwyr hyn, sydd yr un mor bwysig ac sydd hefyd yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, mae hyn yn golygu bod ein cymuned yn cynnwys oddeutu 100,000 unigolyns. Rydym yn awyddus i gysylltu â chymaint ohonynt â phosibl er mwyn clywed am eu profiadau, boed y rheiny’n ddau neu’n ddrwg, a gweld sut y gallwn wella pethau.”

Mae’r ddau’n awyddus iawn i gael mynediad at y cyllid sydd ar gael, er mwyn gwella’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn y rhanbarth i gynorthwyo cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, megis y prosiect hunan-adeiladu yn Wrecsam. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ddysgu sgiliau i adeiladu tai fforddiadwy ac mae cyfle iddynt hefyd i fyw yn yr eiddo.  Ar hyn o bryd, mae lleoedd gwag a chyfle i gymryd rhan yn y prosiect hwn, felly os ydych chi neu’n adnabod unrhyw un sydd ar fin gadael neu wedi gadael y lluoedd arfog, cysylltwch â Steve a Jeannette drwy e-bostio:

janette.williams@wrexham.gov.uk  stephen.townley@wrexham.gov.uk

Mae “gweithdy” hefyd ar y gweill – digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Dref, ddydd Iau, 19 Hydref rhwng 2pm a 4pm. Digwyddiad yw hwn ar gyfer milwyr a chyn-filwyr a’u teuluoedd ac mae cyfle iddynt leisio eu profiadau, eu pryderon a chyngor i eraill

“Y Fyddin Diriogaethol, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Cyn-Filwyr a Milwyr Presennol, ac, wrth gwrs, eu teuluoedd.”

Dywedodd Steve, sy’n gwasanaethu Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy: “Pan rydym yn trafod cymuned y lluoedd arfog, rydym yn cynnwys y Fyddin Diriogaethol, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Cyn-Filwyr a Milwyr Presennol, ac, wrth gwrs, eu teuluoedd. Hoffem weld gymaint o bobl â phosibl ddydd Iau, 19 Hydref – bydd y digwyddiad yn anffurfiol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd wedi mynd o’i le i’r rheiny sydd wedi aberthu llawer er mwyn gwasanaethu eu gwlad gartref a thramor.

“addas at y diben”

Roedd y ddau ohonynt yn gytûn eu bod yn edrych ymlaen at wynebu’r heriau ond roedd y ddau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd eu swyddi a sicrhau bod Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog yn addas at y diben – sef sicrhau nad yw milwyr, sydd ar fin gadael neu wedi gadael y lluoedd arfog o dan anfantais a’u bod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau y maent yn gymwys ar eu cyfer.

“mae lle i wella a digon i’w gyflawni”

Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: ”

“Ers i ni arwyddo’r cyfamod yn 2013, mae’r sefyllfa ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam wedi gwella ac erbyn hyn mae sawl cynllun ar waith na fyddai wedi bod yn bosib oni bai am y Cyfamod. Fodd bynnag, mae lle i wella a digon i’w gyflawni a bydd cyfraniad Steve a Jeannette o gymorth i sicrhau ein bod yn cyflawni pob dim. Mae’n ddyletswydd arnom i ddangos ein gwerthfawrogiad i’r unigolion hynny sydd wedi aberthu llawer i wasanaethu yn y lluoedd arfog ac rwyf yn benderfynol o sicrhau nad ydynt o dan unrhyw anfantais pan maent yn dychwelyd i fywyd fel sifiliaid.”

Dymunwn bob hwyl iddynt yn eu rolau ac edrychwn ymlaen at gael cwrdd â hwy yn y dyfodol i drafod datblygiadau

Dyma rai lluniau diddorol a dynnwyd ddydd Mercher, 5 Ebrill 2017 pan gafodd Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog ei arwyddo ac fe dderbyniodd REME Ryddid Anrhydeddus y Fwrdeistref.

Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.

 

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymunwch â’r 1.4 miliwn o bobl eraill sydd wrthi... Ymunwch â’r 1.4 miliwn o bobl eraill sydd wrthi…
Erthygl nesaf Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English