Rydym yn gwybod fod ymarfer corff yn un o’r pethau gorau y gallwn ei wneud i’n meddyliau a’n cyrff.
Ond i rai pobl, nid yw’n hawdd canfod y cyfleoedd cywir a’r gefnogaeth.
Felly dyma newyddion gwych…
Mae Canolfan Hamdden Y Waun a Freedom Leisure wedi lansio sesiynau nofio cynhwysol ar brynhawniau Llun ar gyfer pobl sy’n byw gydag anabledd – yn arbennig y rhai gyda dementia.
Wedi ei lleoli yn Lôn y Capel, mae’r ganolfan wedi bod yn cynnig nofio gyda chymorth i bobl sy’n byw gyda’r salwch ers peth amser, ac mae nawr yn ymestyn y gwasanaeth gyda sesiynau llwyr gynhwysol lle gall pobl nofio gyda gofalwr.
Os y credwch y gallwch chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod elwa, cysylltwch gyda’r ganolfan hamdden ar 01691 778666.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL
“…mwynhewch nofio mewn lleoliad gwirioneddol gefnogol…”
Mae’r ganolfan wedi bod yn gweithio tuag at ddod yn ‘gyfeillgar i ddementia’, ac mae disgwyl iddi dderbyn gwobr gan Gyfeillion Dementia Wrecsam a’r Gymdeithas Alzheimer’s.
Dywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Lleol Frank Hemmings: “Mae staff wedi rhoi llawer iawn o ymdrech – gan weithio’n agos gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s i wneud rhywbeth a allai wella ansawdd bywyd llawer o bobl.
“Rydym i gyd yn gwybod beth yw manteision corfforol a meddyliol ymarfer corff, a bydd y sesiynau hyn yn rhoi i bobl sy’n byw gyda dementia ac anableddau eraill y cyfle i fwynhau nofio mewn lleoliad gwirioneddol gefnogol.”
Mae’r Cynghorydd Hemmings yn aelod o grŵp llywio Cyfeillion Dementia Wrecsam, ac mae wedi creu dros 100 o ‘gyfeillion dementia’ yn Y Waun yn ei rôl fel Pencampwr Dementia.
“…rhowch gynnig ar hyn…”
Dywedodd David Watkin Rheolwr y Ganolfan: “Dyma gyfle gwych i bobl ar draws Wrecsam sy’n byw gydag anabledd i gymryd rhan mewn nofio.
“Fe fyddant yn gallu nofio gyda gofalwr a ddarperir yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cefnogi gan Wrecsam Egnïol Cyngor Wrecsam a Codi Allan a Bod yn Egnïol (GOGA), sy’n ariannu’r prosiect.
“Rwy’n hynod o falch fod ein staff yn cael eu cydnabod am y gwaith maent wedi ei wneud, ac fe fydden i’n annog pobl i ganfod mwy a rhoi cynnig ar hyn.”
Mae’r sesiynau nofio’n cael eu cynnal ar Ddyddiau Llun o 2.45pm.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Chanolfan Hamdden y Waun ar 01691 778666.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR