Os ydych chi’n dyfwr cymunedol posib neu’n berchennog tir a bod angen ysbrydoliaeth arnoch chi o ran sut i ddatblygu eich tir, ewch i Tŷ Pawb ddydd Llun, 20 Mawrth a chyfarfod â chynrychiolwyr o gymuned sy’n tyfu Wrecsam.
Mae gŵyl “Ein Cymuned sy’n Tyfu” yn cael ei chynnal rhwng 1pm a 4pm i ategu’r arddangosfa Gardd Gorwelion bresennol ac mae’n digwydd yr un pryd â chyhydnos y gwanwyn. Bydd grwpiau lleol ac artistiaid sy’n ymwneud â’r amgylchedd yn arddangos eu llwyddiannau drwy ddelweddau am yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni ac yn rhannu eu profiadau.
Amserlen “Ein Cymuned sy’n Tyfu”
1pm – 1.15pm – Cyrraedd a Chroeso Lluniaeth a chyfle i weld yr arddangosfa a’r posteri, croeso gan Jo Marsh (Tŷ Pawb) a Jayne Rodgers (Tîm Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio). Bydd pob sesiwn yn fyw gan yr artist David Setter (Doodle Planet). Lle Celf Defnyddiol a Oriel
1.15pm – 1.35pm – Tracy Simpson – Addo Creative, Marja Bonada – Artist a Connor Wood – KIM Inspire
Dangosiad dogfennol Maes Parcio Creadigol (Gardd do Tŷ Pawb) gyda sesiwn holi ac ateb. Dilynir gan gerdded fel grŵp i fyny i weld yr ardd to. Gofod Perfformio
1.40pm – 2.35pm – Morag Colquhoun, Artist
Arddangosiad awyr agored lle byddwn yn trosi sglodion pren a phlanhigion yn fio-olosg trwy eu llosgi heb ocsigen mewn odyn symudol. Byddwn yn defnyddio’r gwres gormodol a gynhyrchir gan yr odyn i goginio ychydig o gawl llysiau cynhesu tra byddwn yn monitro’r fflamau yn ofalus cyn diffodd y llosg gyda dŵr. Gellir cymysgu’r bio-olosg sy’n deillio o hyn i gompost yr ardd yn ôl yr angen. Bydd gofalu am yr odyn yn rhoi amser i ni sgwrsio am fio-olosg a themâu cysylltiedig yn yr ardd pen to. Gwisgwch ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda! Gardd Toeau
2.40pm – 3.00pm – Jacinta Challinor, Perllannau Ffrwythau i Bobl a Bywyd Gwyllt
Edrych ar ymdrechion Cyngor Wrecsam i wella mannau gwyrdd lleol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Bydd Jacinta Challinor o Gyngor Wrecsam yn tynnu sylw at rai o’r gwelliannau GI y mae’r tîm Mannau Agored wedi’u gwneud yn y blynyddoedd diwethaf, gan amlygu pam mae perllannau ffrwythau wedi cymryd ffocws allweddol, a sut y gallwch chi gymryd rhan yn ymrwymiad y Cyngor i gefnogi coed a choetiroedd trwy gydol y Sir. Gofod Perfformio
3.00pm – 3.20pm – Bob Campbell, Holt Community Garden
Cyflwyniad i’r gwaith da sy’n digwydd yng Ngardd Gymunedol Holt. Gofod Perfformio
3.20pm – 3.40 – Sorrel Taylor, Erlas Victorian Walled Garden
Rhannu’r llwyddiannau yng Erlas Victorian Walled Garden. Gofod Perfformio
3.40pm – 4.00pm – Cathryn O’nions, Coedpoeth Community Garden
Crynodeb o ddatblygiadau cyffrous Coedpoeth Community Garden. Gofod Perfformio
4:00pm – Lluniaeth a chyfle i rwydweithio a gweld y posteri a’r arddangosfeydd gan y cyflwynwyr.
I gadw’ch lle, ffoniwch 01978 292144, anfonwch e-bost at typawb@wrexham.gov.uk neu cadwch eich lle drwy Eventbrite
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gan Tŷ Pawb enw eithriadol o dda am ddod â chymunedau a’r celfyddydau at ei gilydd er budd pawb. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect hwn a gweld y cynnydd y mae ein cymuned sy’n tyfu ni’n ei wneud yma yn Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr Hinsawdd, “Mae hwn yn gyfle ardderchog i fod yn rhan o wneud yr amgylchedd sydd ar gael i ni mor ecogyfeillgar â phosibl.”
“Pa un a ydych chi am wneud eich gardd chi’n fwy addas ar gyfer gwenyn neu dyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun, mae amrywiaeth eang o brofiadau y gallwch fanteisio arnyn nhw i’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch ysbrydoliaeth.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD