Mae’r ffaith fod yno ddau wahanol brawf ar gael i ddisgyblion ysgol yn medru peri penbleth i rieni a gofalwyr ynghylch pa un i’w ddefnyddio, ac a ddylent gadw’u plant o’r ysgol os ydyn nhw’n dangos unrhyw symptomau.
I’ch helpu gyda hyn dyma rywfaint o gyngor cyffredinol, rhag ofn eich bod yn poeni ydych chi’n gwneud y peth iawn.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae fy mhlentyn yn dangos symptomau – pa brawf ddylwn i ei ddefnyddio?
Os yw’ch plentyn yn dangos symptomau, y peth pwysicaf yw eu bod yn aros gartref o’r ysgol a chael prawf PCR yn eich canolfan brofion agosaf. Gallwch weld sut i drefnu prawf yma: https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119 rhwng 7am a 11pm (galwad rhad ac am ddim). Os ydych chi’n cael trafferth siarad neu glywed, ffoniwch 18001119.
Dylai’ch plentyn aros gartref hyd yn oes os cafodd ganlyniad negyddol ar y prawf llif unffordd, a chael prawf PCR cyn gynted â phosib.
Nid yw canlyniad negyddol yn golygu na fedr eich plentyn drosglwyddo’r feirws.
Mewn rhai achosion gallai rhywun sydd wedi cael prawf negyddol fod â choronafeirws mewn gwirionedd, a bod yn heintus. Mae’n hollbwysig felly bod pawb yn dal i gadw trefn hylendid dda ac yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, p’un a ydynt wedi cael prawf neu beidio.
Nid yw fy mhlentyn yn dangos unrhyw symptomau – pa brawf ddylwn i ei ddefnyddio?
Os nad yw’n dangos unrhyw symptomau dylech ddal i ddefnyddio’r prawf llif unffordd yn rheolaidd fel arfer. Ni fydd hynny’n newid ond os yw’ch plentyn neu aelod arall o’r teulu’n dangos symptomau, neu os bydd y gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu â chi a gofyn ichi hunan-ynysu oherwydd ichi ddod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws.
Dyma rywfaint o atebion i gwestiynau cyffredin a allai fod o fudd os ydych chi’n dal yn ansicr ynghylch pa brawf y dylai’r teulu ei ddefnyddio.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF