Ydych chi’n bwriadu gwneud ychydig o arddio dros yr haf?
Er nad ydi’r tywydd wedi bod yn grêt, mae llawer o bobl wedi manteisio ar yr ychydig o dywydd braf rydym ni wedi ei gael i dreulio ychydig o amser yn yr ardd.
Os ydych chi’n clirio planhigion marw neu’n torri gwair, cofiwch waredu’r gwastraff yn briodol yn eich bin gwastraff gardd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae Cyngor Wrecsam yn casglu’r holl wastraff gardd ac yn ei ddefnyddio i greu compost, a ellir ei ddefnyddio wedyn mewn gerddi eraill.
Peidiwch â thaflu gwastraff gardd!
Er bod eich gwastraff gardd yn edrych fel sbwriel hyll, mae’r gwastraff – fel gwair, chwyn, blodau marw a dail – yn ddeunydd perffaith ar gyfer gwneud compost ac mae’n llawn o bethau da i gadw gerddi yn iach.
Llynedd bu i Gyngor Wrecsam a’i bartneriaid ailgylchu gwastraff, FCC Environment, roi mwy na 420 o dunelli o gompost i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim – gyda 320 tunnell arall yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ein tiroedd a’n gerddi cyhoeddus.
Os oes gennych chi brosiect garddio eleni fe allwch chi nôl compost o safleoedd casglu gwastraff y sir.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwastraff gardd yw un o’r pethau hawddaf i’w hailgylchu – y cwbl sydd arnom ni angen ei wneud ydi ei gompostio ac mae’n barod i’w ddefnyddio unwaith eto.
“Rydym ni’n annog pobl i beidio â rhoi gwastraff gardd yn y bin sbwriel – dydi ei wastraffu ddim yn gwneud synnwyr o gwbl ac mae’n beth da ar gyfer gerddi.”
Cael gwared ar y dyn yn y canol – gwneud eich compost eich hun
Yn ogystal â rhoi’ch gwastraff gardd yn y biniau ailgylchu priodol, fe allwch chi hefyd archebu eich cynwysyddion compost eich hun i gompostio gwastraff gardd a philion llysiau.
Mae’r cynwysyddion compostio yn troi deunydd organig a gwastraff cegin yn gompost llawn maeth sy’n berffaith ar gyfer dal lleithder yn eich gardd.
Gall trigolion archebu cynwysyddion compostio drwy ffonio 01978 298989 neu anfon e-bost at cysylltwch@wrexham.gov.uk
GALWCH AR FFON SYMUDOL