Dyma Rob Clarke, mae’n masnachu ym Marchnad y Cigyddion ac mae wedi bod yno ers 11 mlynedd, sy’n hysbyseb ardderchog ar gyfer bod yn fasnachwr annibynnol yn Wrecsam.
Mae Rob yn briod, a chanddo ddau o blant bach, ac mae’n gwneud ei fywoliaeth trwy werthu DVDs a Blu Ray o’i siop “Mad4Movies” sy’n darparu ar gyfer pob oed a chwaeth. Mae hefyd yn gwerthu rhai DVDs ar-lein er nad dyma ei brif fusnes gan fod yn well ganddo gael cyswllt wyneb yn wyneb a’i gwsmeriaid.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Un siop fawr”
Felly, pam mae Rob yn hoffi masnachu yn y Farchnad?
“Mae pobl Wrecsam yn gyfeillgar iawn ac rwy’n cael cyfarfod llawer ohonynt sydd bob amser yn fodlon aros a sgwrsio. Mae cymuned ardderchog yma hefyd gan fod pawb yn helpu ei gilydd a’r masnachwyr yn gwneud yn dda â’i gilydd. Rydym fel un siop fawr a dweud y gwir.
“Mae masnachu ym Marchnad y Cigyddion yn wych ac ni fyddwn yn ystyried symud gan y byddai hynny’n effeithio ar fy nghostau. Mae pobl yn gwybod lle rydw i ac rwy’n gwybod llawer am fy musnes felly gallaf eu helpu pan na fyddant yn cofio enw ffilm.”
Gwnaethom ofyn iddo pa gyngor y byddai’n ei roi i fasnachwr newydd
“Gall masnachwyr newydd ddysgu llawer gan y masnachwyr yma. Pan ddechreuais i, cefais help gan Dîm Llinellfusnes y Cyngor oedd yn llawer iawn o gymorth i mi, ac mi wnes i hefyd wrando ar gyngor y masnachwyr hŷn, sefydledig. Mae’n rhaid i fasnachwyr newydd hefyd fod yn barod i ymrwymo’r oriau a dod i adnabod eu cynnyrch fel y gallant ei werthu yn hyderus.”
Gwnaethom ofyn i Rob a oedd ganddo unrhyw gyngor ynglŷn â hysbysebu. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
“Cyfryngau cymdeithasol yw ffrind gorau’r masnachwr ar gyfer hysbysebu”
“Nid wyf wedi gorfod defnyddio hysbysebion costus ac rwyf wedi cael fy synnu ar yr ochr orau gyda phŵer cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook. Mae am ddim a dyma ffrind gorau’r masnachwr ar gyfer hysbysebu ac mae’n gymharol hawdd i adeiladu cynulleidfa a fydd yn fuan iawn yn dechrau rhyngweithio â chi. Bydd llawer o fy nghwsmeriaid yn dod o hyd i mi ar-lein ac yn gofyn i mi a oes gen i ffilmiau penodol, felly mae’n ddefnyddiol iawn iddyn nhw.
Mae ymweliad sydyn â siop Rob yn dangos pam y mae ei fusnes wedi bod yn boblogaidd ers cymaint o flynyddoedd. Mae ei silffoedd twt yn cynnig ystod eang o DVDs o’i deitl mwyaf cofiadwy, “Attack of the Lederhosen Zombie” i amrywiaeth eang o ffilmiau “Carry On”, o ffilmiau newydd i hen ffilmiau western. Mae hefyd yn fodlon dod o hyd i DVDs i gwsmeriaid pan nad yw’r DVD penodol ganddo yn ei stoc.
Mae gennym rai stondinau ar gael ym Marchnad y Cigyddion ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd y camau cyntaf i fasnachu mewn marchnad, edrychwch ar ein erthygl flaenorol:
“Ydych chi awydd masnachu ym Marchnad y Cigyddion?”
Os ydych chi o ddifri’n ystyried bod yn fasnachwr marchnad, ffoniwch ein Tîm Marchnadoedd rŵan ar 01978 292545.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL