Mae gan ein parciau gwledig lawer i’w cynnig dros yr haf eleni, ac wrth i wyliau’r haf barhau, pam na wnewch chi ymweld ag un ohonynt i fwynhau’r awyrgylch ac i gael ychydig o awyr iach.
Mae’r digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ar 2 Awst yn Nhŷ Mawr â’r thema “Bydda’n fel i gyd!” lle caiff plant wneud masgiau a dilyn llwybr gwenyn rhwng 1.00pm a 3.00pm. Mae’n addas ar gyfer bob oedran, ac yn costio £2.60 yn unig. Cewch hefyd fwynhau gwneud Gwesty Pryfed 5* ddydd Iau 16 Awst neu ymuno â Chlwb Genweirio Maelor am eu diwrnod cyflwyno ac arddangos adeiladu Cwrwgl ar 18 Awst. Bydd Tŷ Mawr hefyd yn cynnal eu digwyddiad terfynol – Taith Dractor a Llwybr Anifeiliaid – ddydd Iau 30 Awst.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Mae Parc Acton, parc poblogaidd arall, hefyd yn cynnal digwyddiad crefft papur Japaneaidd am 1.30pm a 3.30pm yn y Gerddi Japaneaidd. Yn ogystal â hynny, bydd Helfa Drysor ddydd Mawrth Awst 14 a Noson Ystlumod nos Fawrth 28 Awst o 8.30pm ymlaen.
Trac BMX cefnau Ponciau yw’r lle i fod ar gyfer selogion ddydd Mawrth 20 Awst, am sesiwn BMX – mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn llenwi’n sydyn ac mae’n rhaid archebu eich lle. Pris y digwyddiad yw £7.50 ac mae’n addas i blant 7 oed a hŷn. Ffoniwch 01978 844028 i archebu eich lle ymlaen llaw.
Mae llawer o hwyl i’w gael yn Nyfroedd Alun â’r gêm fwrdd naturiol O ac X yn cael ei gynnal ar 8 Awst a helfa drysor yr haf i deuluoedd o amgylch y parc ddydd Mercher 22 Awst.
Ac i gloi, bydd Grŵp Cyfeillion Parc y Ponciau yn cynnal eu diwrnod hwyl blynyddol ddydd Sadwrn 8 Medi o 1pm ymlaen.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN