Ers i Gymru symud i Lefel Rhybudd 0 mae nifer y bobl sy’n ymweld a gweithio yng nghanol y dref wedi cynyddu’n gyflym.
Tra bod hyn yn newyddion rhagorol i’n masnachwyr yng nghanol y dref, sydd wedi cael 18 mis anodd iawn, mae yna broblem sy’n dod yn fwy a mwy amlwg a pheryglus sef y nifer o yrwyr sy’n anwybyddu rheoliadau traffig a chyfyngiadau parcio.
Mae hyn yn destun pryder o ganlyniad i’r materion diogelwch sy’n codi ac rydym yn gofyn i bawb yrru a pharcio yng nghanol y dref a’r cyffiniau yn ddiogel a chyfreithlon.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Fe gefais fraw yn ddiweddar o ganlyniad i’r nifer o yrwyr a welais yn mynd y ffordd anghywir mewn ardaloedd unffordd a hefyd yn parcio’n anystyriol.
“Does dim esgus am ymddygiad fel hyn sy’n beryglus a gallai arwain at ddamwain ddifrifol. Byddwch yn ofalus a manteisiwch ar y cyfle i barcio am ddim ar ôl 11am yn yr holl feysydd parcio yng nghanol y dref ar wahân i Tŷ Pawb.
“Bydd ein swyddogion yn cadw llygad am droseddwyr ac rwyf wedi cysylltu â’r heddlu lleol i gael eu cymorth i sicrhau fod pob gyrrwr yn cadw at y rheoliadau traffig i sicrhau fod ein ffyrdd yng nghanol y dref a’r ardaloedd i gerddwyr yn parhau yn ddiogel.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN