Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam yn cynnwys cyhoeddiadau am gyllid cychwynnol ac amserlenni yn rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
Yn dilyn cyfarfod cadarnhaol iawn, mae gwaith Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam wedi cael ei gydnabod a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y bydd gwaith yn parhau ar “Pwrpas Cyffredin”, a’i nod yw gweld adfywiad canol y dref trwy fuddsoddiad ac ymyrraeth wedi’i dargedu. Mae’r gwaith hefyd yn cefnogi datblygiad ehangach rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ac mae Wrecsam yn cael ei ystyried yn un o nifer o drefi sy’n arwain wrth ddatblygu’r rhaglen.
Bu Ken Skates, AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Hanna Blythyn, AS, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a chynrychiolwyr o’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig er mwyn trafod y cynlluniau at y dyfodol a sut y gall cydweithio olygu bod cynlluniau uchelgeisiol yn parhau i ddatblygu.
Mae’r gwaith cychwynnol yn cynnwys datblygu brand cryf a chychwyn ar ymgyrch farchnata ac ymgysylltu i gyd-fynd â’r cynlluniau uchelgeisiol a chymryd Wrecsam mewn i’r arena genedlaethol. Mae’r gwaith yma’n barod i’w ddechrau.
Mae gwerthusiad marchnad ar fin dechrau a fydd yn edrych ar safleoedd diangen allweddol yng nghanol y dref a sut y gall y sector cyhoeddus eu prynu a’u hailddefnyddio i greu ardaloedd sy’n barod i ddenu busnesau a buddsoddwyr newydd.
Mae Banc Datblygu Cymru yn rhan allweddol o’r bartneriaeth a bydd eu buddsoddiad yn y dyfodol yn allweddol i ddenu busnes newydd mewn i’r ardal trwy lansio cronfa entrepreneuraidd, y bwriad yw y bydd y gronfa hon ar gael yn y gwanwyn.
Rhagwelir y bydd cyfanswm y cyllid pan fydd y buddsoddiadau hyn wedi’u cwblhau a’u cyflwyno dros £500,000, a dyma’r cam cyntaf o weithredu 3 allan o 9 prosiect allweddol a amlinellir gan y Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig a’u cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd buddsoddiad pellach yn dilyn ar gyfer y 3 phrosiect yma, e.e. prynu eiddo di-angen, yn ogystal â’r 6 phrosiect arall wrth iddynt gael eu datblygu.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard Arweinydd y Cyngor ac Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Mae’r cynlluniau yn cydnabod safle unigryw Wrecsam yng ngogledd Cymru ac ar draws y ffin mewn i ogledd-orllewin Lloegr, ac mae’n galonogol gweld cefnogaeth y Gweinidogion yn ystod cam yma o’r buddsoddiad cychwynnol.
“Hyd yn oed gyda’r holl gyfyngiadau a heriau yn sgil y pandemig, rydym mewn sefyllfa dda i ddenu buddsoddiad a hyder i ganol y dref, yn ogystal â’r holl fentrau eraill sydd eisoes wedi derbyn cyllid sylweddol er mwyn adfywio’r ardal. Fe hoffem ddiolch i’r Gweinidogion am gymryd yr amser i gwrdd â ni ac am eu hanogaeth ac ymrwymiadau i fuddsoddi, a’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig am barhau i fwrw ymlaen â’u cynlluniau cyffrous.’
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Economi, Cludiant a Gogledd Cymru: “Mae’n braf gweld y datblygiadau cadarnhaol yma’n symud ymlaen yn Wrecsam. Fe fydd o fudd gwirioneddol i’r dref, ei phreswylwyr a’r rhai sy’n gweithio yma. Fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni fuddsoddi a gwneud y mwyaf o ganol ein trefi. Mae hyn yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir ar gyfer Wrecsam, ac mae’n cynnal y momentwm gwych ym mhroffil y dref sydd wedi gwella yn fyd-eang diolch i Ryan Reynolds a Rob McElhenney”.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AS: “Mae adfywio canol tref Wrecsam yn enghraifft o sut rydym ni’n cefnogi ac yn diogelu dyfodol trefi Cymru trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn rhoi hwb i gynaliadwyedd, nifer yr ymwelwyr a thwf economaidd trwy greu swyddi, cartrefi a chyfleoedd busnes, ond fe fydd yn cael effaith cadarnhaol ar les y gymuned leol.
“Gyda’r ymagwedd o roi canol y dref yn gyntaf, gallwn gysylltu ein cymunedau’n well a sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad i’n trefi. Rwy’n parhau’n ymroddedig i drawsnewid trefi fel Wrecsam mewn i asedau cymunedol lle mae pobl eisiau byw, gweithio a siopa.”
Bu cynnydd mewn gwaith diweddar ar gynigion mawr ar gyfer ardal Wrecsam, gyda phrosiect Porth Wrecsam yn cynnwys yr orsaf drenau a’r cae pêl-droed, cynlluniau i Amgueddfa Wrecsam fod yn gartref ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru, cyllid Trawsnewid Trefi i ddatblygu a gwella marchnadoedd canol y dref, a £1.5 miliwn o gyllid treftadaeth er mwyn adfer a chadw nifer o adeiladau hanesyddol pwysig Wrecsam, a’u gwneud nhw’n ddeniadol i fusnesau ac unigolion lleol.
Fe sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam yn 2018 mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae’n cynnwys Arweinwyr Dinesig o amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol a busnesau yn Wrecsam sydd yn unedig ynglŷn â’r uchelgais i gefnogi Wrecsam i gyflawni ei botensial llawn, yn benodol trwy ganolbwyntio ar fuddsoddi yng nghanol y dref.
CANFOD Y FFEITHIAU