Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parhewch i gadw at y rheolau – Atal y Lledaeniad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Parhewch i gadw at y rheolau – Atal y Lledaeniad
FideoY cyngor

Parhewch i gadw at y rheolau – Atal y Lledaeniad

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 5, 2021 3:41 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Anogir cymunedau ledled gogledd Cymru i atal y lledaeniad a helpu i gadw’r rhanbarth yn ddiogel.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Wrth i amrywiolion newydd, mwy heintus o Covid-19 gael eu nodi, mae bwrdd iechyd y rhanbarth, y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol wedi dod at ei gilydd i wneud apêl gyhoeddus i bawb gadw at y rheolau a helpu i atal y lledaeniad.

Mewn fideo newydd a ryddhawyd yr wythnos hon, mae tri o bobl yn rhannu eu profiadau personol o effaith Covid-19 ar eu bywydau.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Os bydd pobl yn anwybyddu’r rheolau ac yn gwneud fel y mynnant, bydd y feirws yn parhau i ledaenu. Bydd mwy o bobl o bob oed yn mynd yn sâl, gan roi mwy o bwysau ar ysbytai, ambiwlansys a gwasanaethau cyhoeddus.

“Ar ran y sefydliadau partner yng ngogledd Cymru, rwy’n annog yr holl breswylwyr i barhau â’u hymdrechion, cadw at y rheolau a helpu i atal y lledaeniad.”

Mae nifer yr achosion o Covid-19 yn lleihau’n araf yng ngogledd Cymru, ond mae amrywiolion newydd yn cylchredeg ac os na fyddwn yn cymryd gofal ychwanegol, byddant yn parhau i ledaenu.

Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn adrodd am fwy o achosion lle mae aelwydydd cyfan bellach yn dal Covid-19, ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bod o leiaf 16 o bobl dan 40 oed wedi bod angen gofal critigol yn ysbytai gogledd Cymru hyd yma.  Gall Covid-19 effeithio ar unrhyw grŵp oedran.

Mae’r neges yn glir – cadwch at y rheolau a helpwch i atal y lledaeniad.

Mae’n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn aros gartref, yn cwrdd â’r bobl rydym yn byw gyda nhw yn unig, yn aros o leiaf ddau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, yn golchi ein dwylo’n rheolaidd, ac yn gweithio gartref os gallwn.  Gwisgwch orchudd wyneb lle bo angen, neu lle na allwch gynnal pellter cymdeithasol.

Os ydych chi neu aelod o’ch cartref yn datblygu symptomau fel peswch, twymyn neu newid o ran blasu ac arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf am ddim yn www.llyw.cymru/cael prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Free PPE packs available to Taxi and private hire drivers Pecynnau Cyfarpar Diogelu Personol ar gael i yrwyr Tacsi a cherbydau hurio preifat
Erthygl nesaf Cwrs wedi ei ariannu’n llawn i helpu Pwyliaid i ‘lwyddo mewn cyfweliad’! Cwrs wedi ei ariannu’n llawn i helpu Pwyliaid i ‘lwyddo mewn cyfweliad’!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English