Gyda llwyddiant diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae nifer fawr o ymwelwyr wedi heidio i’r ddinas, gan gynnwys cefnogwyr timau oddi cartref a chefnogwyr o bob cwr o’r Fwrdeistref i fynychu gemau yn STōK Cae Ras, gyda chynlluniau ar droed i gynyddu maint y stadiwm.
Gyda hyn, daw rhagor o draffig a bydd rhai meysydd parcio o gwmpas y ddinas yn llawn yn ystod gemau, felly, mae’r Swyddfeydd Tai ar Ffordd Rhuthun yn treialu cynllun parcio am ddim ar ddiwrnod gêm (gemau penwythnos yn unig) er mwyn rhyddhau lleoedd ym meysydd parcio eraill canol y ddinas, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.
Gan mai cynllun peilot yw hwn, bydd modd parcio am ddim yn y safle. Bydd modd parcio ar gyfer gemau penwythnos yn unig o ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 (Mansfield Town gartref, cic gyntaf 12.30).
Mae’r cynllun hwn i dreialu trefniadau parcio ar ddiwrnod gêm yn dilyn penderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 9 Gorffennaf 2024 i archwilio dichonoldeb y safle. Daw’r cynllun peilot i ben ar ddiwedd y tymor.
Y nod yw deall a oes galw am leoedd parcio ar safle Ffordd Rhuthun. Os bydd galw am y safle hwn yn arbennig o uchel, mae posibilrwydd o drefnu dewisiadau talu ac arddangos yn y dyfodol.
Mae safle’r Swyddfeydd Tai yn darparu lleoedd parcio ar gyfer hyd at 143 o gerbydau ac mae’n cymryd tua 15 – 20 munud i gerdded o STōK Cae Ras.
Bydd modd parcio yno ar gyfer gemau gartref ar benwythnosau yn unig, o 3 awr cyn y gic gyntaf a bydd yn cau’n brydlon 2 awr ar ôl diwedd y gêm.
Cyfeiriad y safle:
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU
Gallwch weld yr holl gemau cartref sydd wedi’u trefnu trwy wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydym yn treialu’r maes parcio ar safle Ffordd Rhuthun ar gyfer parcio ar ddiwrnod gêm (gemau penwythnos yn unig). Credaf y bydd y cynllun peilot cychwynnol hwn yn gwella’r profiad i gefnogwyr sy’n mynychu’r gemau a gallai ddarparu datrysiad parcio ar gyfer cyfnodau prysur diwrnodau gêm yng nghanol y ddinas.
“Gyda thocynnau ar gyfer gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwerthu i gyd, a phryderon yn cael eu codi am barcio ger y stadiwm, bydd hyn yn caniatáu i ni weld a ellid defnyddio’r safle fel datrysiad mwy hirdymor.”