Nid ydym yn disgwyl eira eto – ond petawn ni, a fyddech yn barod amdano?
Oes digon o wrthrewydd a hylif glanhau ffenestr flaen yn eich car, ac yw eich teiars yn ddiogel ar gyfer gyrru ar eira a rhew?
Sut ewch i’r gwaith os nad allwch gael y car allan o’r garej neu pwy fydd yn gwarchod y plant os yw’r ysgol wedi cau neu os nad yw’r bws yn rhedeg?
Ni allwn eich helpu â’r cwestiynau hyn – ond gallwch helpu eich hunain drwy wirio eich car yn awr a sicrhau ei fod yn barod ar gyfer tywydd gwael neu ddifrifol. Sicrhewch fod hyn ar dop eich rhestr o bethau i’w gwneud.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gwmni bysiau neu dacsi sy’n cludo’ch plentyn i’r ysgol a rhowch eu rhifau ffôn yn eich ffôn chi, a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol os allwch chi.
Bydd ein gwefan hefyd yn rhoi gwybod i chi pa ysgolion sydd wedi cau – ydych chi’n gwybod sut i ddod o hyd iddo? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:
Beth wnawn ni i helpu yn ystod tywydd gwael?
Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith i ni ddarganfod os oes tywydd gwael ar ei ffordd i Wrecsam. Byddwn yn rhoi mwy o sylw i arwynebedd y ffyrdd drwy raeanu yn barod ar gyfer rhew neu eira – ond nid yw hynny’n golygu y byddent yn gwbl ddiogel a bydd angen i chi yrru’n ofalus, felly caniatewch mwy o amser ar gyfer eich taith.
Ni fyddwn yn gallu ymateb i ymholiadau unigol ar y cyfryngau cymdeithasol, megis “yw ysgol fy mhlentyn ar agor?” neu “a yw bws rhif 1 yn rhedeg?” Nid oes gennym amser i wneud hynny, ond byddwn yn monitro’r cyfryngau cymdeithasol ac yn rhannu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi os yw ein hadeiladau ar agor neu ar gau ac os yw’r casgliadau biniau yn gweithredu’n ôl yr arfer.
Wrth baratoi, dylem allu wynebu unrhyw storm, felly cymerwch yr amser i ystyried “beth fyddwn i’n ei wneud petai’n bwrw eira yfory” a gwnewch y trefniadau angenrheidiol.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU