Wyddoch chi fod dros 70% o achosion o dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff cartref, a dros 40% o breswylwyr Cymru mewn perygl o gael eu twyllo gan dipiwr anghyfreithlon?
Fel arfer “gŵr mewn fan” ydi’r drwg yn y caws sy’n hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol y gwnaiff gasglu eich sbwriel am bris rhesymol – yn aml dydi llawer ohonyn nhw ddim yn gyfreithiol a methu defnyddio’r canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ ac felly yn cymryd eich arian a thipio’r gwastraff yn anghyfreithlon yn y fwrdeistref Sirol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’n “dyletswydd gofal” ar bob un ohonom i wneud yn siŵr ein bod yn cael gwared ar ein gwastraff yn gyfrifol ac yn ddiogel ac os bydd unrhyw wastraff wedi’i dipio yn anghyfreithlon yn cael ei gysylltu’n ôl efo chi cewch ddirwy o hyd at £300 neu hyd yn oed gael eich erlyn.
Mae nifer o gwmnïau cludo gwastraff yn gweithredu’n gyfreithlon ac mae ffordd hawdd i ddarganfod os ydych yn defnyddio un o’r rheiny – gofynnwch i gael gweld eu cerdyn Cludydd Gwastraff Cofrestredig.
Gallwch hefyd ofyn i le bydd eich gwastraff yn mynd a gofyn am dderbynneb ar gyfer y gwasanaeth yr ydych yn talu amdano.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae yna lawer o bobl gyfrifol allan yna a fydd yn cludo eich gwastraff ac yn rhoi gwasanaeth da i chi. Fodd bynnag, dylem i gyd fod yn ymwybodol mai nad dyma’r achos bob tro a dylem wneud yn siŵr fod yr unigolyn y byddwn yn ei gyflogi i glirio’r gwastraff wedi cofrestru’n gyfreithlon a ddim yn tipio’n anghyfreithlon.
“Rhaid i ni gyd ofalu am ein hamgylchedd a gwneud yn siŵr fod yr arian yn mynd i gwmnïau cofrestredig a chyfrifol.”
Cofiwch y pwyntiau isod wrth archebu gwasanaeth gwaredu gwastraff:
- Gwiriwch eu bod yn gludydd gwastraff cofrestredig
- Gofynnwch iddyn nhw i le mae’r gwastraff yn mynd
- Cofnodwch fodel a rhif cofrestru’r cerbyd
- Gofynnwch am dystiolaeth o’r trosglwyddiad drwy ofyn am dderbynneb.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL