Mae arnom ni eisiau atgoffa trigolion, er ein bod ni’n casglu deunyddiau ailgylchu ychwanegol (wedi’u didoli’n briodol) nad ydym ni’n casglu bagiau sbwriel ychwanegol sy’n cael eu rhoi wrth ymyl biniau sbwriel.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Dydyn ni ddim yn casglu gwastraff ochr, felly peidiwch â gadael bagiau ychwanegol wrth ymyl eich bin. Os oes gennych chi fagiau nad ydyn nhw’n ffitio yn eich bin, ewch â nhw i’r ganolfan ailgylchu. Gallwch weld oriau agor y canolfannau ailgylchu yn Wrecsam ar ein gwefan. Fel arall, daliwch eich gafael yn y bagiau a’u rhoi nhw yn eich bin sbwriel ar ôl iddo gael ei wagio, yn barod ar gyfer y casgliad nesaf.”
Sut i adael ailgylchu ychwanegol allan
Os ydi’ch bocsys ailgylchu yn llawn, fe allwch chi adael deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
Os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd arall.
Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled â bod y cardfwrdd wedi’i blygu yn llai na’r sach glas safonol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wrecsam.gov.uk/ailgylchu
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI