Rydych yn troi’r teledu ymlaen ac yn gweld hysbysebion y Nadolig… rydych yn gweld pobl wedi ymgynnull o amgylch y bwrdd, yn gwenu, chwerthin a thynnu coes….
Maent yn cael amser gwych…rydych yn meddwl mai dyma sut y dylai’r Nadolig fod … ac mae hyn yn gwneud i chi deimlo dan bwysau, yn bryderus ac yn aml yn unig.
Peidiwch â theimlo cywilydd nac yn euog … mae’r Nadolig yn gyfnod eithriadol o brysur ac emosiynol, ac mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl ein hunain.
Peidiwch â’i anwybyddu
Os ydych yn teimlo fel hyn, mae’n bwysig iawn sylweddoli mai nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn a bod yna gefnogaeth ar gael.
Roedd comisiwn Unigrwydd Jo Cox wedi canfod yn ddiweddar bod miliynau ohonom yn teimlo’n unig, rhywfaint neu drwy’r amser – ond yn arbennig adeg y Nadolig.
Os ydych angen siarad, mae gan y Samariaid rif rhadffôn y gallwch ffonio o unrhyw ffôn: 116 123.
Ac nid dros gyfnod y Nadolig yn unig – gallwch eu ffonio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn!
Mae siarad yn gallu helpu yn aml 🙂
Dyma gyngor ar sut i edrych ar ôl eich iechyd meddwl….
• Os ydych yn teimlo’n bryderus, ewch i bartïon a digwyddiadau cymdeithasol yn fuan cyn iddynt fynd yn rhy brysur (ac ewch â ffrind yn gymorth efallai).
• Er ei bod yn Nadolig, daliwch i wneud y pethau arferol sy’n eich helpu i gadw’n iach – gall hyn gynnwys mynd i redeg yn y bore, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth ofalgar?
• Gall maetheg gwael gynyddu symptomau – yfwch ddigon a bwytewch yn rheolaidd drwy gydol y diwrnod.
Edrychwch allan am eraill…
Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn, efallai nad yw eraill o’ch cwmpas chi.
Os ydy rhywun rydych yn ei adnabod yn dawel neu’n fewnblyg, peidiwch â meddwl eu bod yn ‘ddiflas’ – gofynnwch os ydyn nhw’n iawn a beth allwch chi ei wneud i’w helpu i fwynhau mwy ar yr ŵyl.
Ond os ydyn nhw’n rhy bryderus i fynd allan o gwbl, ewch draw gyda mins peis – rydym yn siŵr y byddent yn gwerthfawrogi hyn.
Dyma ambell gyngor sy’n gallu eich helpu i fwynhau’r Nadolig yn well. Mae yna fwy o gyngor ar wefan Mind.
A chofiwch, os ydych angen siarad, gallwch ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg o’r dydd ar 116 123.
Cadwch yn iach y Gaeaf hwn 🙂