Erthygl a gyhoeddwyd ar ran Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI)
Mae Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch wedi annog defnyddwyr i dynnu’r plwg allan o’r wal ar beiriannau sychu dillad Whirpool sydd heb eu haddasu ac sydd wedi’u heffeithio, ac yna cysylltu â’r cwmni.
Daw’r rhybudd wrth i’r Swyddfa roi gwybod i Whirpool ei fod yn bwriadu cyhoeddi rhybudd adalw ar bob peiriant sydd wedi’i effeithio. Dyma’r weithred fwyaf llym y mae’r Swyddfa sydd yn rhan o Adran ar gyfer strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiannol (BEIS) wedi’i gymryd ymysg beirniadaeth eang nad ydi Whirpool wedi gweithredu’n ddigon cyflym nac yn ddigon cryf i amddiffyn defnyddwyr rhag perygl o dân sydd yn gysylltiedig â’r peiriannau sychu dillad.
Dywedodd llefarydd ar ran BEIS: “Mae Adran Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch y Llywodraeth yn parhau i gymryd camau cadarn ar y mater. Yn unol â’r ddeddfwriaeth, ar 4 Mehefin, fe roesom wybod i Whirpool o’n bwriad i gyflwyno Hysbysiad Adalw ar gyfer y peiriannau hynny sydd heb gael eu haddasu eto. Rydym yn aros am eu hymateb.
“Tynnu’r plwg a chysylltu â Whirpool”
“Rydym yn parhau i annog defnyddwyr sydd â pheiriannau sychu dillad sydd heb eu haddasu ac sydd wedi’u heffeithio i dynnu’r plwg allan o’r wal, ac yna cysylltu â Whirpool. Gall defnyddwyr sydd â pheiriannau sychu dillad Whirpool sydd wedi cael eu haddasu barhau i’w defnyddio’n ddiogel.”
Yn ystod Symposiwm Sefydliad Safonau Masnach Siartredig yn Brighton yr wythnos hon, bu cynrychiolwyr yn trafod yr effaith y gallai methiannau rheoleiddio posibl ei gael ar yr economi ac ar fywydau pobl.
Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, Leon Livermore: “Bydd CTSI yn cefnogi’r Swyddfa pan fydd yn gweithredu yn erbyn risgiau annerbyniol i ddefnyddwyr. Gall tanau mewn peiriannau yn y gegin fod yn eithriadol o beryglus, ac mae’r weithred yma’n gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau fod defnyddwyr yn parhau’n ddiogel.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN