Cafwyd hwb pellach i bêl-droedwyr ifanc yn Wrecsam yn dilyn agoriad swyddogol pafiliwn newydd ym Mharc y Ponciau, cartref Clwb Pêl-droed Aelwyd Rhos.
Mae’r prosiect £200,000 yn golygu y gall y clwb flaenoriaethu pêl-droed ieuenctid ac iau sydd eisoes wedi tyfu o 4 tîm ers haf 2019. Mae’n meithrin y bartneriaeth gref sy’n goruchwylio datblygiad pêl-droed ledled y fwrdeistref sirol.
Yn y dyfodol mae’r clwb yn awyddus i gymryd drosodd gyda gwaith cynnal y cyfleusterau, a fydd wedyn yn rhoi mwy o ryddid iddynt wneud cais am arian grant pellach.
Bydd y clwb hefyd yn rhan o’r cyfleuster chwaraeon 3G yn Ysgol y Grango.
Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
“Pêl-droed yn uchel ar yr agenda yma o hyd”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Roedd yn bleser bod yn bresennol yn agoriad y cyfleuster newydd hwn a chlywed yr hyn y bydd yn ei olygu i bobl ifanc yr ardal.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu canolfannau pêl-droed ar draws Wrecsam. Mae’r buddsoddiad hwn yn gam mawr ymlaen i’r gymuned hon.
“Mae pêl-droed yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda yma o hyd. Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam bellach dan reolaeth newydd ac mae eu dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn. Mae Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol ar fin dod yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac mae’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn golygu y bydd Wrecsam yn parhau i fod yn gartref ysbrydol pêl-droed am flynyddoedd lawer i ddod.”
“Pafiliwn newydd ardderchog”
Agorwyd y pafiliwn yn swyddogol gan Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru a ddywedodd, “Mae CBDC yn falch o’i phartneriaeth â Chyngor Wrecsam sydd wedi arwain at ddatblygu, ac ariannu’r pafiliwn newydd rhagorol hwn. Bydd yn darparu ystafelloedd newid a chyfarfod hanfodol ar gyfer Clwb Pêl-droed Aelwyd Rhos a’r gymuned ehangach, gan alluogi i’r clwb ymgysylltu, drwy bêl-droed, gyda mwy o ferched a phobl ifanc.
“Mae cefnogi clybiau i feddu ar eu cyfleusterau eu hunain a’u gwella yn rhan allweddol o’n strategaeth cyfleusterau ar gyfer Cymru yn y dyfodol.”
Cafwyd buddsoddiad o £200,000 ym Mhrosiect y Pafiliwn, gyda chyllid Chwaraeon Cymru o £70,000; cyllid grant Cory Environmental o £70,000, ynghyd â chyllid gan y Cyngor Sir a Chymuned.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN